Ateb y Galw: Tanni Grey-Thompson

Tanni Grey-Thompson sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Carolyn Hitt yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Gweld Cymru yn chwarae rygbi pan o'n i tua tair oed. 'Nath fy mam fy ngwneud i wisgo bobble hat Cymru a sgarff ac roedd rhaid i ni gas谩u bob t卯m arall roedden ni'n chwarae yn ei erbyn. Dwi'n cofio gweiddi "Dwi'n cas谩u Batty" at y teledu. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd Grant Batty ond fe roedd e'n chwarae i d卯m yn erbyn Cymru.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Pierce Brosnan - o'i ddyddiau Remington Steele.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na lot o bethau - wnes i ddisgyn allan o 'nghadair unwaith ar ganol Heol y Frenhines - roedd hyn ganol dydd ac o'n i'n hollol sobor. Wnes i hefyd ollwng fy handbag ar y llawr ac roedd rhaid i mi bigo y stwff i fyny tra o'n i ar y llawr. Efallai fyddai ddim wedi bod mor ddrwg os fyddai wedi bod yn y nos. Ond fe wnaeth 'na lot o bobl gerdded heibio a dweud helo wrtha'i tra oeddwn i'n trio codi i 'nghadair.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn Rio. Cafodd un o'r athletwyr oeddwn i'n helpu ei hyfforddi ras siomedig - es i'n syth yno i'r 'trac cynhesu' ac unwaith wnaethon ni weld ein gilydd naethon ni grio. Roedd yna wirfoddolwyr a oedd yno yn crio ar 么l ein gweld ni'n crio hefyd. Fe welis i y gwaith caled a wnaeth Jade dros y chwe mlynedd ddiwethaf, ac roedd e'n drist gweld nad oedd hi ar ei gorau.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Roeddwn i'n arfer cnoi fy ngwinedd pan oeddwn i'n fy arddegau. Dwi'n hollol obsessed efo stopio fy merch rhag gwneud e, ond dydi hi ddim yn gwneud eto.

Dwi'n cadw fy llyfrau yn nhrefn yr wyddor - dydi fy ng诺r ddim yn poeni ac yn rhoi nhw n么l yn rhywle. Fe brynais e-reader achos mae'n llai poenus - mae'n anodd pan mae e'n rhoi nhw n么l yn rhywle.

Ffynhonnell y llun, Phil Cole

Disgrifiad o'r llun, Tanni yn ennill medal aur arall yng Ngemau Paralympaidd Athens, 2004

P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llyn Parc y Rhath. Roeddwn yn arfer ymarfer yno ac roedd yn rywle roedden ni'n mynd yn aml tra'n blant. Roedden ni'n cael picnics yno yn aml (brechdanau fy mam) ond dwi hefyd yn cofio mynd yno am hufen i芒.

Bob tro oedden ni'n mynd yno roedd Dad yn dweud hanes Cofeb Scott - yr un stori bob tro roedden ni'n ei glywed. Bydde ni yno'n cerdded drwy'r gerddi blodau gan gael clywed enwau yr holl flodau. Roedd e'n amser teulu braf iawn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Parti noson ola' Gemau Paralympaidd Barcelona - roedd y pentre' wedi ei adeiladu ar lan y m么r ac fe gaethon ni barti gwych. Roedd yna tua 15 ohonom ni ac roedd rhai o fy ffrindiau gorau i o'r t卯m yno. Gaethon ni lot o hufen i芒 (roedd oergelli enfawr yn y neuadd fwytau gyda hufen i芒 am ddim). Efallai roedd 'na ambell ddiod hefyd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Busneslyd, styfnig, cymhleth (mewn gwrionedd dwi'n berson eitha syml ond byswn i'n licio bod yn gymhleth).

Beth yw dy hoff lyfr?

Mae honna'n un anodd, felly dwi am bigo dau lyfr, Pride and Prejudice a Pride and Prejudice and Zombies. Y tro cynta' y darllenais y fersiwn Zombies roeddwn yn giglo i fy hun gymaint - dwi'n caru'r ffordd y cafodd y stori ei drawsnewid.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Die Hard. Dwi ddim yn gwybod faint o weithiau dwi wedi ei weld o bellach, ond dwi'n caru y ffilm yma. Mae acen Alan Rickman yn ofnadwy ynddo fo, ac mae rhywfaint o'r actio dros ben llestri hefyd. Rydych chi'n gwybod sut mae'r ffilm am orffen, ond mae dal yn gr锚t o ffilm.

Ffynhonnell y llun, Tom Dulat

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Fonesig Tanni Grey-Thompson yn aelod o D欧'r Arglwyddi ers mis Mawrth, 2010

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Anne Hathaway - mmm, dwi ddim yn siwr os ydy hi'n edrych fel fi, ond os fyddai hon yn ffilm o fy mywyd i byswn eisiau e i fod yn glamorous.

Dy hoff albwm?

Eurythmics - Touch. Roeddwn i'n caru gwallt Annie Lennox - a dwi 'di cael gwallt digon tebyg dros y blynyddoedd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - weithiau awn ni allan a wna'i fwyta dau gwrs cyntaf yn lle prif gwrs. Rhywbeth efo caws, gorgimwch neu p芒t茅... 'sgen i ddim diddordeb mawr mewn pwdin i ddweud gwir.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

JK Rowling - dwi'n edmygu beth mae hi wedi ei wneud efo ei enwogrwydd a'r ffordd mae'n rhoi arian i elusennau.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Lowri Morgan