Dim newid i gynghorau yn 'siomedig'

Disgrifiad o'r llun, Syr Paul Williams

Mae Syr Paul Williams, cadeirydd y comisiwn wnaeth awgrymu lleihau nifer awdurdodau lleol Chymru, yn dweud ei fod yn siomedig fod cyn lleied wedi newid ers iddo gyhoeddi ei adroddiad.

Fe ddywedodd Comisiwn Williams yn 2014 y dylid lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru i gyn lleied 芒 10.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'w bwriad o leihau nifer y cynghorau sir, gan ddweud eu bod am weld cynghorau yn cydweithio er mwyn darparu gwasanaethau yn rhanbarthol.

Dywedodd Syr Paul wrth raglen Sunday Politics Wales y 麻豆官网首页入口, y gallai cynllun o'r fath of yn un "anodd iawn" i'w weithredu oherwydd byddai'n golygu cynghorau yn ildio rhai o'u pwerau.

Dywedodd fod Mark Drakeford, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, am weld cynghorau yn cydweithio yn hytrach nag uno "oherwydd yn amlwg gyda llywodraeth leiafrifol mae'n debyg mai hwn yw'r unig opsiwn."

Pan ofynnwyd iddo a oedd o'n siomedig gyda'r diffyg newid atebodd: "Yn bersonol rwy'n credu mod i."

"Mae'n debyg fod aelodau'r Comisiwn yn siomedig o ystyried y dystiolaeth helaeth gafodd ei gasglu a'r ffaith fod pawb bron wnaeth siarad 芒 ni ar y pryd wedi mynegi safbwynt fod yn rhaid gwneud rhywbeth.

"Ond oni bai fod yna ewyllys gwleidyddol i wneud hyn, yna nid wyf wedi fy synnu," meddai.

"Rwy'n credu mai beth mae Mark yn ceisio ei wneud nawr yw sicrhau consensws, ond mae o'n eithaf clir nad yw partneriaeth fel yr oedd yn cael ei weithredu yn y gorffennol ....yn rhywbeth fydd yn gweithio. Mae'n rhy gymhleth."

"O ran gorchymyn trefniadau newydd o lywodraethiant rwy'n meddwl y byddai hyn yn anodd. Oherwydd pe bai chi am gadw 22 awdurdod lleol - ac maen nhw wedi eu hethol yn ddemocrataidd - sut mae trefniadau llywodraethiant yma yn mynd i weithio pan mae'n rhaid ildio peth awdurdod i bartneriaeth ranbarthol newydd."

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd adroddiad Comisiwn Williams ei gyflwyno i'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn 2014

Dywedodd Mark Drakeford fod y llywodraeth flaenorol wedi gwneud ymgais lew i geisio rhoi cyflwyno argymhellion Comisiwn Williams o ran lleihau nifer y cynghorau.

"Rwy'n credu fod y drafodaeth a gafwyd yn un bwysig. Rwy'n credu fod y drafodaeth wedi newid natur y ford byddwn yn gweithio.

"Ond yn y pendraw fe fethodd a sicrhau consensws o fewn y cynulliad, a thu allan i'r cynulliad."

Fe wnaeth adroddiad Comisiwn Williams gael ei gyhoeddi yn Ionawr 2014, ac roedd yn feirniadol o gymhlethdod y sector gyhoeddus yng Nghymru.

Fe fydd Sunday Politics Wales yn cael ei ddarlledu ar 麻豆官网首页入口 1 Wales am 11:00.