'Cecru mewnol UKIP yn destun cywilydd,' medd Nathan Gill

Dywed yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Nathan Gill, nad yw e'n gwybod a fydd e'n aelod o blaid UKIP ymhen blwyddyn.

Dywedodd Mr Gill, sy'n cynrychioli'r Gogledd yn y Cynulliad fel aelod annibynnol, fod y cecru mewnol o fewn UKIP yn codi cywilydd arno.

Daw ei sylwadau wedi ffrwgwd rhwng dau Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yn adeilad y Senedd Ewrop yn Strasbwrg.

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement 麻豆官网首页入口 Cymru fore Sul, dywedodd Nathan Gill fod y blaid, ar hyn o bryd, unwaith eto yn cecru'n fewnol a hynny yn gyhoeddus.

Mae ymadawiad cyn-arweinydd y blaid, Diane James, a dychweliad Nigel Farage yr wythnos hon, ychwanegodd, yn newyddion 'dychrynllyd'.

Disgrifiad o'r llun, Steven Woolfe ASE a fu mewn ffrwgwd ddydd Iau yn Strasbourg

Ddydd Iau aed 芒'r Aelod Seneddol Ewropeaidd, Steven Woolfe, sydd ymhlith y ffefrynnau i fod yn arweinydd nesaf y blaid, i'r ysbyty ar 么l cweryl yn dilyn cyfarfod o aelodau UKIP yn Strasbourg.

Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, dywed Nathan Gill ei fod wedi gofyn iddo'i hun sawl gwaith yr wythnos hon beth ar y ddaear sy'n digwydd: "Mae'r cyfan yn codi cywilydd," meddai.

Wrth ateb cwestiwn a ofynnodd a fydd e'n aelod o'r blaid ymhen blwyddyn. Dywedodd nad oedd yn gwybod.

Ychwanegodd: "Rwy'n cael fy nhrist谩u yn fawr gan ymddygiad nifer o bobol yn fy mhlaid ar hyn o bryd."