麻豆官网首页入口

Oedi nes 2018 i gynnal Marathon Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Hanner marathon caerdyddFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu miloedd o bobl yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd unwaith eto eleni

Mae trefnwyr Marathon Caerdydd wedi cyhoeddi y byddan nhw nawr yn oedi nes 2018 i gynnal eu ras gyntaf.

Dim ond 10 diwrnod yn 么l, dywedodd cwmni Run4Wales eu bod yn bwriadu cynnal eu marathon lawn gyntaf yn y brifddinas ym mis Ebrill 2017.

Ond nawr maen nhw'n dweud na fyddan nhw'n "rhuthro pethau", a'u bod am sicrhau bod popeth yn ei le cyn ei chynnal yn 2018.

Daeth y cyhoeddiad gwreiddiol am gynnal marathon llawn yn dilyn llwyddiant Hanner Marathon Caerdydd unwaith eto eleni, gyda 22,000 o redwyr yn cymryd rhan.

'Cwrs perffaith'

"Yn hytrach na cheisio cynnal y digwyddiad yn 2017, rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n bwysicach darparu'r cwrs perffaith i redwyr o bob gallu," meddai Matt Newman, prif weithredwr Run4Wales, wrth esbonio'r oedi cyn cynnal y marathon llawn.

"Mae nifer o gyfleoedd y mae angen i ni edrych arnynt yn fanylach er mwyn darparu llwybr eiconig y gall ein rhedwyr fwynhau.

"Ar 么l edrych ar y posibiliadau i gyd gyda Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yngl欧n 芒'r llwybr gorau posib rydyn ni wedi penderfynu peidio 芒 rhuthro pethau."

Ychwanegodd Mr Newman bod "galw mawr" am farathon o safon yng Nghymru, ac y byddai digwyddiad yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2017, flwyddyn cyn i'r ras gael ei chynnal, i "roi blas i bawb" o beth fydd ar y gweill.