麻豆官网首页入口

Penodi cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018

  • Cyhoeddwyd
gorsedd

Mae Ashok Ahir wedi ei benodi yn gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Bu'n gweithio i raglenni newyddion y 麻豆官网首页入口 ac fe fu'n gyfrifol am adran wleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru am nifer o flynyddoedd, ac mae ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a'r cyfryngau.

Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Cymreig y British Council yn ogystal 芒 Gr诺p Adolygu Llywodraeth Cymru ar Gymraeg i Oedolion.

Daw'n wreiddiol o Wolverhampton ac iaith ei aelwyd yno oedd Punjabi. Dysgodd Gymraeg yn 2005 ac roedd yn un o'r pedwar i gyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2012.

Mae'n byw gyda'i deulu yng Nghaerdydd ac yn gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus.

Disgrifiad,

Ashok Ahir yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018

Wrth siarad ar raglen Y Post Cyntaf 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, dywedodd Ashok Ahir ei fod yn teimlo bod yr Eisteddfod bellach yn fwy agored i ymwelwyr sydd ddim wedi arfer mynd i'r 诺yl yn gyson:

"Dim pawb sy'n gwybod pa fath o 诺yl yw hi achos dy'n nhw ddim yn mynd drwy'r mynediad, a gobeithio heb fynediad bydd pawb yn ei weld e," meddai, gan gyfeirio at y cynlluniau ar gyfer Eisteddfod di-faes.

"Hwn yw'r siop ffenest agored am y tro cyntaf, ac mae hynny'n gam enfawr i mi."

Ychwanegodd ei fod yn teimlo ei bod hi'n bwysig estyn croeso i ymwelwyr sydd ddim yn medru'r iaith, yn ogystal 芒 chofio mai g诺yl Gymreig yw hi yn y b么n:

"Ni angen bod yn gyfforddus i ddefnyddio'r Saesneg o gwmpas [y maes], mae hi dal yn 诺yl sy'n digwydd drwy'r Gymraeg... ond hefyd ti angen dangos nid jyst i bobl o Gymru, ond pobl tu fas i Gymru, mae 'na ddwy iaith ar waith yn y wlad yma a ni'n dathlu nhw gyda'n gilydd," meddai.

"Dyna beth sy'n bwysig, bod ni'n gallu gwerthu fe fel g诺yl mawr, yn y brifddinas, i bawb."