麻豆官网首页入口

Pa mor hawdd yw dweud 'Shwmae'?

  • Cyhoeddwyd
Steffan Alun
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Steffan Alun wedi bod yn dweud 'Shwmae' bob dydd Gwener ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru Mwy yn ddiweddar

Beth ddigwyddodd pan aeth Steffan Alun ati i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg yn Abertawe?

N么l yn 2013, ar y diwrnod Shwmae Sumae cyntaf, fe ofynnodd 麻豆官网首页入口 Cymru iddo gofnodi'r profiad.

Wy'n credu bod angen gair newydd arnom yn Gymraeg - gair am yr ofn y gallwn deimlo cyn dechrau sgwrs yn Gymraeg heb wybod a yw'r person arall yn medru ar yr iaith.

Mewn dinas fel Abertawe, mae'n ofn sy'n fy atal rhag dechrau unrhyw sgwrs yn Gymraeg, oni bai:

(a)Fy mod yn adnabod y person eisoes;

(b)Fy mod mewn siop Gymraeg;

(c)Bod y person yn gwisgo bathodyn i nodi'r gallu i siarad yr iaith.

Felly, fel rhan o , penderfynais fachu ar y cyfle i oresgyn yr ofn, a dechrau pob sgwrs yn Gymraeg mewn deg siop neu fwyty.

Mae'n beth anodd i'w wneud. Beth os fydd y person yn gwylltio am i mi fod mor haerllug a dechrau sgwrs mewn iaith nad yw 80% o'r ddinas yn ei siarad?

Ffynhonnell y llun, Steffan Alun

Neu beth os fyddan nhw yn bychanu'r iaith? Gall hynny fod yn waeth. Gas gen i fod mewn sefyllfa o orfod dweud wrth rywun cyfeillgar bod eu hagwedd yn sarhaus. Rhywbeth sy'n digwydd yn aml i mi, fel digrifwr, yw y daw rhywun o'r gynulleidfa ataf i rannu j么c ("glywaist ti hon?") - ac yn aml, aml iawn, mae'r j么c yn hiliol, a rhaid i mi droi'r sgwrs o fod yn gyfeillgar i fod yn ymosodol.

Dyna ro'n i'n ei ddisgwyl gan bobl. Ond ni ddigwyddodd dim o'r fath.

"Tango beth?"

O, roedd rhai heb syniad beth i'w wneud. Fel y boi yn y fferyllfa, neu'r ferch mewn un t欧 bwyta, wnaeth wneud dim ond syllu tan i mi gynnig yr un wybodaeth yn Saesneg.

Neu well byth, staff oedd yn methu deall pam nad oedd fy ngeiriau'n golygu dim iddyn nhw. Mewn un siop, gofynnais am "Tango bach", ac atebodd y boi yn Saesneg, "Tango beth?!" Mae'n bosib ei fod yn dychmygu bod "Tango Bach" yn fath arbennig o'r ddiod, fel "Pepsi Max" efallai.

Mewn siop gemau, holais am ddyddiad rhyddhau'r gemau Pok茅mon newydd. Gofynnodd y boi i mi ailadrodd fy hun ddwywaith. Golwg o ddryswch pur ar ei wyneb. Ro'n i'n gallu gweld ei feddwl yn gweithio - "rwyt ti'n siarad yn ddigon clir ... ac yn ddigon uchel ... felly pam nad ydw i'n gallu deall y geiriau?"

Llawer ddim yn deall, felly, ond neb yn haerllug. A rhaid dweud, profiadau cadarnhaol dros ben oedd yn y rhan fwyaf o'r lleoedd.

Roedd rhai yn gwrtais iawn, gan ymddiheuro nad oeddent yn siarad Cymraeg, a gofyn i mi ailadrodd y cwestiwn yn Saesneg.

Dim ond 20% yn siarad yr iaith

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sawl sgwrs sydd i'w chael yn y Gymraeg yn Abertawe?

Llwyddodd staff siop y clwb rygbi i ddeall fy nghwestiwn heb orfod gofyn am gyfieithiad (diolch yn rhannol i mi ofyn am wybodaeth am gift cards, er mawr cywilydd i mi fel cyfieithydd). Ond braf oedd cael ymateb heb orfod ailadrodd.

Ond y gorau oll - mewn tair siop, roedd y staff yn siarad Cymraeg. Llwyddiant o 30%! Mewn dinas lle nad oes ond 20% yn siarad yr iaith, ro'n i ar ben fy nigon.

Cefais wybodaeth lawn yn Gymraeg gan y ferch yn swyddfa docynnau Stadiwm Liberty. Yn y siop ffonau dechreuodd y sgwrs yn ansicr - gyda'r boi yn troi i'r Saesneg i drafod materion mwy cymhleth, ond gan ddefnyddio mwy a mwy o Gymraeg wrth i'w hyder gynyddu. Ac roedd y ferch yn y siop pizza yn llawn cymorth, yn amlwg wrth ei bodd ei bod hi'n gallu fy helpu yn fy iaith fy hun.

A dyna'r peth pwysicaf i mi ddysgu drwy wneud hyn. Mae ar staff siopau a bwytai wir eisiau helpu. Dydyn nhw ddim yn bychanu nac yn gwylltio o glywed y Gymraeg. Ac os ydyn nhw'n gallu helpu yn yr iaith, maen nhw mor hapus i wneud.

A does dim ofn arna'i bellach.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar wefan 麻豆官网首页入口 Darganfod yn 2013.

Mae ar Hydref 15 wedi ei drefnu gan Fudiadau Dathlu'r Gymraeg i annog pobl i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol