麻豆官网首页入口

Cyllideb: Plaid a Llafur yn cytuno bargen gwerth 拢119m

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Sefydlogrwydd" yn ganolog i'r gyllideb medd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford

Fe fydd arian ychwanegol ar gael i wario ar iechyd, colegau, cynghorau a'r iaith Gymraeg wedi i Blaid Cymru gytuno ar fargen gwerth 拢119m gyda'r llywodraeth Lafur.

Heb fwyafrif, mae angen i Lywodraeth Cymru ennill peth cefnogaeth y gwrthbleidiau er mwyn pasio'u cynlluniau gwario gwerth 拢15bn.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ddydd Llun, fod bargen wedi ei tharo.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford AC, fod y cytundeb yn "rhoi hwb" i flaenoriaethau allweddol, wrth iddo baratoi i ddatgelu mwy o fanylion ddydd Mawrth.

Fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r fargen, gan ddweud mai nhw yw "gwrthwynebiad go iawn" Llafur.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r meysydd y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn eu hariannu

Cynhaliwyd trafodaethau cyllideb 么l-etholiadol yn gynharach eleni, wrth i Plaid gynorthwyo Carwyn Jones i barhau yn ei swydd fel prif weinidog.

Mae'r arian ychwanegol ar gyfer iechyd yn cynnwys hwb i hyfforddiant meddygol, iechyd meddwl ac offer diagnostig newydd.

Dywed Plaid Cymru fod y toriadau disgwyliedig i gynghorau lleol - oedd ostyngiad cyllidebol o 2% y llynedd - wedi cael eu canslo eleni.

Mae mesurau eraill yn cynnwys astudiaeth i ailagor y llinell reilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, a gweithredu yn gyflymach wrth adeiladu ffordd osgoi ar gyfer Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.

Dydd Llun, dywedodd Leanne Wood fod y fargen yn arwydd o sut oedd Plaid Cymru yn cydweithio gyda Llafur, yn dilyn beirniadaeth gan yr Arglwydd Elis-Thomas dros agwedd y blaid tuag at y llywodraeth. Dywedodd yr AC dros Ddwyfor Meirionnydd ddydd Gwener fod gan y Blaid record "ddifrifol" am weithio gyda Llafur.

Dadansoddiad Arwyn Jones, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru.

Mae gweinidgion yn Mae Caerdydd yn gyfrifol am wario 拢14.6bn-拢14.8bn, sy'n dod o goffrau'r trysorlys yn San Steffan.

Mae hi'n anodd darogan yr union fanylion, ond eleni mae ganddon ni syniad go lew.

Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu darpariaeth gofal plant am ddim i drideg awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn i blant tair a phedair oed, i helpu rhieni ddychwelyd i'r gwaith.

Mae yna bryder na fydd amcangyfrif y gost - 拢84m y flwyddyn - yn ddigon.

I blant h欧n mi fydd yna newydd da hefyd, addewid o 拢100m i wella ysgolion.

Mae yna ddisgwyl hefyd y bydd cynnydd yn nifer y prentisiaethau - 100,000 dros y pum mlynedd nesaf.

Mi fydd yna gost, wrth gwrs, i hynny.

Ac er bod y cynnydd mewn prentisiaethau i'w groesawu, mae yna bryder y bydd toriadau pellach ar gyrsiau eraill mewn colegau addysg bellach.

A dyna'r broblem i'r llywodraeth heddiw. Mae'r pwrs cyhoeddus yn dynn iawn.

Os ydy'r ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford am wario mwy ar rai maesydd, mi fydd angen torri gwariant ar eraill.

Ar ben hynny, mae yna bwysau gwleidyddol parhaus i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd, yn enwedig o gofio adroddiadau yr wythnos diwethaf am ddiffyg arian y gwasanaeth.

Mae'r cynllun i gefnogi ardaloedd tlotaf Cymru, Cymunedau'n Gyntaf, eisoes wedi mynd gan arbed 拢30 miliwn y flwyddyn.

Ond mi fydd angen cadw llygad barcud i weld lle arall fydd y fwyell yn cwympo.

Felly am y tro mi fydd yn rhaid i ysgolion, ysbytai, cynghorau a ni'r trethdalwyr, aros i weld beth ddaw.