Cynnydd yn yr arian i gynghorau lleol

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Bydd 22 o gynghorau lleol Cymru yn derbyn 拢4.107bn ar gyfer y 2017-18.

Mae Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru Mark Darkeford wedi cyhoeddi y bydd awdurdodau lleol yn derbyn 拢4.107bn ar gyfer y 2017-18.

Mae'n rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac mae'n golygu cynnydd o 拢3.8m o'i gymharu 芒 2016-17.

Dyma'r cynnydd cyntaf i awdurdodau lleol ers 2013-14.

Unwaith mae chwyddiant yn cael ei ystyried mae'n golygu toriad mewn termau real o'i gymharu a'r cyfanswm arian oedd ar gael y llynedd.

Cyngor Gwynedd sydd yn gweld y cynnydd mwyaf, sef 0.9%, tra bod Blaenau Gwent, Powys, Torfaen a Wrecsam yn gweld gostyngiad o 0.5%.

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio i benderfynu sut i rannu'r arian rhwng y cynghorau.

Dywedodd llefarydd ei bod yn golygu fod yna lai o wahaniaethau rhwng cynghorau.

Y llynedd roedd yna feirniadaeth oherwydd i nifer o gynghorau gwledig weld gostyngiadau dipyn mwy na chynghorau mwy poblog.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mark Drakeford y bydd llawer o gynghorau'n gallu cynyddu eu gwariant

Mae'r arian yn cynnwys 拢25m sydd wedi ei glustnodi a'i warchod ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol.

Dywedodd llefarydd: "Mae hefyd yn cymryd i ystyriaeth cytundeb Llywodraeth Cymru 芒 Phlaid Cymru i roi 拢25 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol drwy'r setliad i gefnogi darparu gwasanaethau hanfodol, yn ogystal 芒 darparu 拢1 miliwn ar gyfer cludiant i'r ysgol a 拢3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i gefnogi parcio yng nghanol trefi.

Dywedodd Mr Drakeford: "Nod y setliad dros dro hwn yw rhoi sefydlogrwydd i awdurdodau lleol reoli'r penderfyniadau anodd sydd o'n blaenau.

"O dan y cyllid gwaelodol, ni fydd rhaid i unrhyw gyngor ymdopi ar lai na 99.5% o'r arian a ddarparwyd iddynt y llynedd."