麻豆官网首页入口

Datganoli cyfrifoldeb am gyflogau athrawon i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Athro/Cynulliad

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi newidiadau i Fesur Cymru fydd yn gweld cyfrifoldeb dros osod cyflogau athrawon yn cael ei ddatganoli i Fae Caerdydd.

Cafodd y newidiadau eu cyflwyno gan Weinidog Swyddfa Cymru, Yr Arglwydd Bourne, ddydd Llun.

Mae T欧'r Arglwyddi wedi dechrau trafod y mesur ddydd Llun, a bydd ail ddiwrnod o drafodaethau'n cael ei gynnal ddydd Llun nesaf.

Ond mae dau o undebau athrawon mwyaf Cymru wedi mynegi pryder am y cynllun, gan ddweud y gallai arwain at gyflogau llai yng Nghymru o'i gymharu 芒 Lloegr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: "Dyma'r cyntaf mewn cyfres o newidiadau ry'n ni'n eu gwneud i Fesur Cymru o ganlyniad i drafodaethau cadarnhaol rydw i wedi eu cael gyda'r Prif Weinidog, Llywydd y Cynulliad a nifer o rhanddeiliaid allweddol.

"Mae addysg yn fater sydd wedi'i datganoli, ac mae'n gwneud synnwyr i'r Cynulliad a Gweinidogion Cymraeg i benderfynu t芒l ac amgylchiadau athrawon yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel y gwnaeth llythyr diweddar y Prif Weinidog i Ysgrifennydd Cymru yn glir, dydyn ni ddim mewn safle i gefnogi'r mesur ar hyn o bryd ac mae nifer o rwystrau i'w goresgyn.

"Er hynny, mae'r rhain yn newidiadau calonogol gan Lywodraeth y DU, ac rydyn ni'n obeithiol am yr addewid o newidiadau pellach yn yr wythnosau nesaf."

Pryder undebau

Ond mae rhai o brif undebau athrawon wedi mynegi pryder am gynlluniau Llywodraeth y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb athrawon mwyaf Cymru, Chris Keates o NASUWT, y byddan nhw'n gwrthwynebu'r mesur os nad ydyn nhw'n cael sicrwydd am nifer o faterion.

"Dyw'r datblygiad yma ddim yn annisgwyl," meddai. "Er hynny, dydi datganoli cyflog ac amodau i Gymru ddim yn fater syml, ac er mwyn i NASUWT ei gefnogi byddwn yn ceisio sicrhau nifer o ymrwymiadau pwysig gan Llywodraeth Cymru.

"Bydd yr amodau yma'n cynnwys ymrwymiadau ar arian ar gyfer cyflogau athrawon, ar amodau gwasanaeth ac arolwg anibynnol.

"Os nad yw'r ymrwymiadau yma'n cael eu cyflenwi bydd NASUWT yn amlwg yn defnyddio prosesau seneddol i geisio ei wrthwynebu."

Ychwanegodd Owen Hathway o NUT Cymru bod eu haelodau nhw hefyd yn gwrthwynebu'r penderfyniad.

"Rydyn ni'n bryderus y bydd gennym ni delerau ac amodau llwm, a gallai arwain at gyflogau is," meddai.

Dadansoddiad ein Gohebydd Seneddol, Bethan James:

Wrth i'r Arglwyddi ddechrau'r broses o adolygu Mesur Cymru ar lawr yr ail siambr yn San Steffan mi wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns datgan y bydd Swyddfa Cymru yn cyflwyno gwelliant i'r Mesur. Datganiad sy'n dod, wrth gwrs, wedi i'r aelodau seneddol gymeradwyo'r Mesur.

Mae Swyddfa Cymru wedi datgan y bydden nhw yn cyflwyno gwelliant fydd yn datganoli cyflogau athrawon i'r Cynulliad. Mae'r penderfyniad yma yn dilyn llythyr gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Yn ei lythyr i Mr Cairns, mi eglurodd Carwyn Jones nad oedd yn barod i gefnogi'r mesur fel ag y mae hi. Mi ychwanegodd bod angen mwy o eglurdeb ynghylch rhai materion - er enghraifft ynghylch creu trefn gyfreithiol Gymreig a datganoli cyflogau athrawon.

Yn ymateb i lythyr Carwyn Jones, ma' Alun Cairns yn cydnabod bod rhoi'r p诺er dros gyflogau athrawon yn ddatblygiad naturiol gan fod penderfyniadau dros addysg eisoes wedi'i datganoli.

Mi ddywedodd Mr Cairns "dyma yw'r cynta' o newidiadau i'r Mesur yn dilyn trafodaethau gyda Prif Weinidog Cymru a Llywydd y Cynulliad".

"Mae datganoli cyflogau athrawon yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru... Dwi'n gobeithio cyflwyno mwy o newidiadau yn yr wythnosau nesa.

"Y bwriad ydy creu setliad sy'n gweithio ar gyfer Cymru a Prydain oll. Dwi'n hapus i ystyried datganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru os oes rheswm clir dros wneud hynny."

Mae Llywodraeth San Steffan yn gobeithio y bydd y Mesur, sydd wedi bod yn cael ei thrafod yn y Cynulliad a Th欧'r Arglwyddi, yn cael ei phasio cyn diwedd y flwyddyn.

Byddai'r pecyn yn datganoli rhagor o bwerau i Gymru dros feysydd fel ynni ac etholiadau, gan gyflwyno hefyd system o 'bwerau wedi'u cadw yn 么l' ble byddai San Steffan yn datgan yn benodol pa bwerau oedd heb eu datganoli i Gaerdydd, yn hytrach na pha rai sydd wedi.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn barod eto i gymeradwyo Mesur Cymru i Aelodau Cynulliad, ac mae ACau wedi rhybuddio bod y fersiwn newydd yn bygwth crebachu ar allu'r Senedd i ddeddfu.

Mi fydd Carwyn Jones felly'n si诺r o groesawu datganiad Alun Cairns a'r addewid i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd y setliad ore.

Ond cyfle'r Arglwyddi yw hi ar hyn o bryd i drafod manylion y mesur. Mae nifer o aelodau wedi cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys gwelliant yn galw am sefydlu trefn gyfreithiol Gymreig.

Gwelliannau eraill gerbron y pwyllgor o Arglwyddi yw'r alwad i ddatganoli'r p诺er dros redeg y rheilffyrdd , yr alwad i ddatganoli unrhyw dreth ar bobl sy'n teithio o feysydd awyr yng Nghymru a'r alwad i ddatganoli d诺r.

Yr Arglwydd Dafydd Wigley sydd wedi cyflwyno'r gwelliant dros ddatganoli d诺r. Mae e'n awyddus i sicrhau nad yw Cymru, byth eto, yn diodde' trasiedi fel Tryweryn.

Mae ambell i gyn-ysgrifennydd gwladol yn awyddus i newid y mesur gyda'r Arglwydd Hain a'r Arglwydd Murphy yn cyflwyno gwelliant ynghylch etholiadau'r Cynulliad. Mae'r gwelliant yma yn datgan bod rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu sefyll fel ymgeisydd i'r Cynulliad fyw yng Nghymru.

Gwelliant, yn 么l rhai, sydd wedi'i hanelu at y blaid UKIP.

Mi fydd yr Arglwyddi yn parhau i drafod gwelliannau i'r mesur ddydd Llun nesa , y 7fed o Dachwedd.