麻豆官网首页入口

Cerdd Dant 'ta tat诺?

  • Cyhoeddwyd
Beth AngellFfynhonnell y llun, Beth Angell
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A fydd Beth yn dysgu i beidio cario'r 'a' yn rhy hir ar ddiwedd y frawddeg?

Mae'r cyfarwyddwr teledu a'r ddigrifwraig Beth Angell yn cyfaddef bod ganddi freuddwyd. A'r freuddwyd honno ydy... canu Cerdd Dant.

Gyda yn cael ei chynnal ym Mhwllheli ar 12 Tachwedd, ai dyma ei chyfle i wireddu'r freuddwyd?

'Rhyw ddydd...'

Mae'n beth trendi iawn ar hyn o bryd i lunio rhestr fwced, sef rhestr o bethau yr hoffech eu cyflawni cyn ymadael 芒'r byd hwn.

Er nad ydw i wedi llunio rhestr o'r fath - gan nad ydw i cweit yn barod i wynebu'r ymadawiad eto - mae gen i restr o bethau yr hoffwn eu gwneud yn cyniwair yn 'y mhen ers blynyddoedd.

Dwi'n torri mol isho tat诺 ond ddim yn si诺r yn lle. Hoffwn ymweld 芒'r Grand Canyon ond mae cyfyngiadau ariannol yn fy rhwystro. A dwi'n d'eud ers blynyddoedd mod i isho canu mewn c么r Cerdd Dant!

Dwi wedi bod yn gweithio fel cyfarwyddwr teledu yn yr 糯yl Cerdd Dant ers bron i 10 mlynedd. Bob blwyddyn fyddai'n colli fy hun yn sain y cantorion sydd wedi meistroli'r dechneg hyfryd a'i dyrchafu i uchelfannau na alla' i 'mond breuddwydio amdanynt.

Ac mi ydw i'n 'breuddwydio amdanynt'. Dwi'n breuddwydio'n flynyddol y byddaf i, ryw ddiwrnod, yn canu Cerdd Dant.

Peidiwch 芒 ngham-ddallt i. Dwi'n gwbl ymwybodol o'm cyfyngiadau. Mae'r ffaith nad ydw i'n hynod o gerddorol, na chwaith yn gantores benigamp, yn ogystal 芒'r ffaith bod chwanen efo ADHD yn gallu canolbwyntio'n hirach na fi, yn mynd i fod yn rhwystr i wireddu'r freuddwyd.

Ond, os dim byd arall, mi rydw i'n benderfynol ac mae hynna'n mynd 芒 dyn yn bell.

'Dyma fy nghyfle'

CUT TO... Medi 2016. A finnau'n pori drwy Facebook daeth neges i'r sgr卯n. Roedd Gwenan Gibbard am sefydlu c么r lleol ar gyfer yr 诺yl ym Mhwllheli. "Haleliwia dyma fy nghyfle o'r diwedd," meddyliais.

Felly ar nos Fercher braf o Fedi dyma ddringo i'r car a theithio o Gaernarfon i Bwllheli i ymgynnull mewn festri yn y dref.

Na'i fod yn onest efo chi, mi oedd fy mol yn llawn gl枚ynnod byw ac mi oedd 'na ysfa yna'i i droi am adref.

Ond gyda chyfaill yn cyd-deithio doedd ei heglu hi am adre' ddim yn opsiwn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhyw ddydd, efallai y bydd Beth yn ymuno efo'r rhai sy'n 'Gwbod Eu Stwff'

Felly bu'n rhaid palu 'mlaen 芒'r daith gyda un neu'r llall ohonom yn gweiddi "be uffar 'da ni'n 'neud?" bob ryw ddwy filltir.

Wedi cyrraedd y festri cawsom ein synnu. Roedd hi'n llawn yno. Ac i ychwanegu at ein trallod daeth yn amlwg fod pawb arall yn 'Gwbod Eu Stwff'.

Doedd dim malu awyr. "Cerwch i eistedd gyda'ch lleisiau a dyma gopi o osodiad y bennill gyntaf," cyhoeddodd Gwenan. Tydw i erioed wedi teimlo cymaint allan o'n nyfnder yn fy mywyd.

"Ma 'na rywun yn fama yn treulio gormod o amser dros yr 'a' ar ddiwedd y llinell gyntaf," meddai wedyn a bu'n rhaid i fi gyfadde' mai fi oedd wrthi.

'Dychrynllyd'

I fod yn onest mi oedd yr holl brofiad yn ddychrynllyd braidd a 'mond unwaith o'n i 'di bod.

Ond mi oedd gen i ffydd yn fy hun. "Dwi'n si诺r neith o'i gyd 'glicio' ymhen cwpwl o wythnosau," meddyliais. Ond 芒 bod yn onest mi oedd gena i fy amheuon.

Mi o'n i wedi ymuno 芒 ch么r o experts. Roeddan nhw'n sgrialu allan o'r orsaf Gerdd Dant tra mod i'n dal i chwilio am newid i brynu tocyn parcio.

Ond dwi ddim yn un sy'n rhoi'r gorau i bethau am ddim rheswm...

Cefais alwad ff么n y diwrnod wedyn yn cynnig gwaith ysgrifennu i mi ond bydde'n rhaid i mi fynychu cyfarfodydd pob nos Fercher. Yr un noson 芒'r ymarferion Cerdd Dant. Ond alla' i ddim gwrthod gwaith...

Felly byrhoedlog a dweud y lleiaf oedd fy ymwneud 芒'r byd Cerdd Dant. Ac, os dwi'n gwbl onest, efallai fod y c么r yn lwcus mod i ddim wedi gallu ymuno.

Ond rhyw ddiwrnod mi wn芒i. Rhyw ddiwrnod, mi ganaf mewn c么r Cerdd Dant a chael croesi rhywbeth oddi ar y rhestr 'na.

Mae'n unai hynna, neu gael tat诺!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Telynau'n tiwno yng Ng诺yl Cerdd Dant Porthcawl 2015

- dydd Sadwrn 12 Tachwedd yn adeilad Plas Heli, Pwllheli.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口