麻豆官网首页入口

Owen Smith: 'Newidwch y gyfraith i gael ail refferendwm'

  • Cyhoeddwyd
Owen Smith

Mae AS Pontypridd, Owen Smith wedi dweud y bydd yn ymgyrchu i newid y gyfraith er mwyn caniat谩u opsiwn o gynnal ail refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Smith, wnaeth herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur eleni, y dylai'r llywodraeth allu gofyn i bobl am yr eildro a oedden nhw eisiau gadael Ewrop.

Daeth yr alwad yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys nad oedd gan y llywodraeth yr hawl i ddechrau'r broses o adael heb gael caniat芒d San Steffan.

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi apelio'r dyfarniad i'r Goruchaf Lys, ac fe fydd yr achos yn cael ei glywed ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Mr Smith wrth raglen Sunday Supplement 麻豆官网首页入口 Radio Wales y byddai'n ceisio newid y ddeddfwriaeth pan oedd hi'n cael ei chyflwyno er mwyn cynnig yr opsiwn o "ail refferendwm".

"Nawr, falle na fydd hynny'n bosib, fe allai'r llywodraeth geisio fframio'r mesur mewn ffordd fyddai'n gwneud hynny'n amhosib, ond dyna yw fy mwriad," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bryd derbyn canlyniad y refferendwm, yn 么l Theresa May

"Dyw hynny ddim yn golygu bod rhaid cael ail refferendwm, falle bydd yr amodau fydd wedi cael eu trafod o fantais i Brydain. Falle bydd hi'n glir fod y wlad yn hapus 芒 hynny.

"Ond os yw hi'n dod yn glir dros y ddwy flynedd nesaf y bydd mwy o ansicrwydd economaidd, y bydd y wlad yn dioddef ac nad yw pobl yn hapus 芒'r canlyniad, dw i'n meddwl y byddai unrhyw lywodraeth synhwyrol am gael yr opsiwn o ofyn y cwestiwn eto er mwyn bod yn si诺r."

Mae Theresa May wedi mynnu bod yn rhaid gweithredu ar ganlyniad y refferendwm, gan ddweud bod y llywodraeth wedi herio penderfyniad yr Uchel Lys gan fod angen i wleidyddion "dderbyn beth wnaeth y bobl benderfynu".

Ond mae Jeremy Corbyn wedi dweud bod gan ei blaid bedwar amod y byddai'n rhaid eu gweithredu cyn i Lafur gefnogi'r broses o adael - mynediad i'r farchnad sengl, ymrwymiad i hawliau gweithwyr yr UE, diogelu prynwyr a'r amgylchedd, ac addewid i gyllido prosiectau oedd yn colli buddsoddiad Ewropeaidd yn sgil Brexit.