麻豆官网首页入口

'Teimlo'n fyw eto'

  • Cyhoeddwyd
Llywelyn Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llywelyn Williams ar y don

Yn 2011 roedd Llywelyn Williams yn teithio ar ei ffordd adref i Abersoch o ochrau Llanbedrog ar ei sgrialfwrdd (skateboard) pan gafodd ei daro gan gar. Bum mlynedd ers colli ei goes dde yn y digwyddiad, mae'r syrffiwr amryddawn o Abersoch yn gobeithio cynrychioli Prydain yn y gamp yng Ngemau Paralympaidd Tokyo yn 2020.

"Nesh i roi fy llun i fyny ar Facebook ac ers hynna ma' pobl wedi dod yn interested a isio'n straeon i," meddai ar raglen Aled Hughes 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

Fe ddaeth t卯m o Abertawe sy'n dysgu pobl anabl i syrffio i gyswllt 芒 Llywelyn, ac ym mis Rhagfyr fe fydd y g诺r 21 oed yn cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ar draethau California.

Dywedodd fod popeth wedi digwydd yn "uffernol" o sydyn: "Dwi ddim yn gwbod be' i neud," meddai.

"Dwi'n trio cael y byd i wbod am fy stori i. Mae o wedi dod mor sydyn. Mae'r ff么n yn mynd flat out o ddydd Llun i ddydd Gwener efo papura' newydd isio straeon."

Mae wedi dweud ei stori wrth newyddiadurwr o Efrog Newydd, ac hyn i gyd wedi cychwyn wedi iddo roi ei lun i fyny ar Facebook yn s么n am ei fwriad i fynd i'r Gemau ymhen pedair blynedd.

"Ers hynna mae o wedi mynd yn massive," meddai.

Ffynhonnell y llun, Sion Bryn Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llywelyn Williams

Teithio'r byd

Pan yn 18 oed bu'n mynd o amgylch Awstralia am flwyddyn yn syrffio, ac mae hefyd wedi bod yn Indonesia, Ffrainc, a Sbaen.

Ond adref, ym Mhorth Ceiriad ym Mhen Ll欧n, y mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn perffeithio'i grefft.

"Fydda i'n reidio'r union run surfboard 芒 pobl efo dwy goes. Dwi 'di trio knee boards, sy'n fwy llydan, ond dwi'm yn licio rheiny."

Mae'n dweud nad ydy o'n cofio dim o'r ddamwain newidiodd ei fywyd ym mis Medi 2011. Ond, i fawr syndod ei deulu, ei ffrindiau a Llywelyn ei hun, roedd adref o'r ysbyty cyn y Nadolig hwnnw.

Dywedodd fod cefnogaeth ei deulu a'i ffrindiau wedi bod yn allweddol i'w wellhad.

"Dwi 'di cael lot o help gan ffrindia... sy'n helpu fi rownd yn y gadair olwyn, cario fi lawr i'r traeth, pwsho fi fewn i'r tonnau.

"Dwi isio g'neud yn well na be' o'n i efo dwy goes," meddai'n benderfynol. "Munud esh i i'r d诺r am y tro cynta' ar 么l bod yn hospital, o'n i'n teimlo'n fyw eto."

Ffynhonnell y llun, Sion Bryn Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llywelyn ar y traeth ym Mhorth Ceiriad, ger Abersoch

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口