麻豆官网首页入口

Ymdrech i achub crwban m么r prin gafodd ei ganfod ym M么n

  • Cyhoeddwyd
'Menai' y crwban yn S诺 M么rFfynhonnell y llun, S诺 M么r

Mae swyddogion gwarchodaeth yn ceisio achub crwban m么r prin ar 么l iddi ddod i'r lan oddi ar arfordir Ynys M么n.

Cafodd yr anifail trofannol ei chanfod ddydd Sadwrn yn Tan-y-Foel, ger canolfan S诺 M么r ym Mrynsiencyn.

Mae milfeddygon nawr yn edrych ar 么l y crwban, oedd yn "lwcus i fod yn fyw" ar 么l cael ei darganfod mewn cyflwr difrifol.

Y gred yw ei bod yn grwban m么r pendew 'Kemp' neu 'Olive Ridley' - mae rhywogaeth y pendew Kemp ymysg y rhai mwyaf prin ac mewn perygl o ddiflannu.

Mae'r ddau fath i'w cael fel arfer mewn moroedd cynnes a throfannol ger Mecsico a de'r UDA, ond dydyn nhw ddim fel arfer yn goroesi mewn dyfroedd oerach o gwmpas Cymru.

Ffynhonnell y llun, S诺 M么r

Mae'r crwban bellach yn derbyn gofal yn y ganolfan, ond mae staff wedi rhybuddio nad oes sicrwydd eto y bydd yn goroesi.

"Fe gawsom ni ein synnu bod y creadur hynod yma wedi golchi fyny wrth y traeth reit tu allan i S诺 M么r - roedd hi bron fel petai'n galw am ein help ni," meddai Frankie Horbo, perchennog a chyfarwyddwr y s诺.

"Petai hi wedi dod i'r lan rhywle arall a heb gael ei chanfod mor sydyn, byddai bron yn sicr wedi marw.

"Mae ein staff yn gweithio'n galed i wella'r crwban ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hi'n goroesi ac yn gallu cael ei dychwelyd i ddyfroedd cynhesach unwaith y bydd hi ddigon cryf."