麻豆官网首页入口

Slepjan i Gymry Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae sioe Raslas Bach a Mawr gan Gwmni Theatr Bara Caws yn dechrau ar ei thaith nos Wener 18 Tachwedd yn Galeri Caernarfon. Mae'r tocynnau wedi eu gwerthu'n dda yn y gogledd, ond mae 'na nifer o bobl yng Nghaerdydd sy'n anfodlon.

Mae pris y tocynnau i weld y sioe yng Nghanolfan y Mileniwm ar 30 Tachwedd yn llawer uwch nag y maen nhw mewn lleoliadau eraill ar y daith, ac mae hyn wedi siomi rhai teuluoedd yn y brifddinas.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Bara Caws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iwan Charles a Llyr Ifans sy'n chwarae rhan Plwmsan a Syr Wynff yn y cynhyrchiad

Yn 么l gwefan Canolfan y Mileniwm, mae pris tocyn oedolyn yng Nghaerdydd yn 拢19.00 (sy'n cynnwys 拢1.50 o ffi archebu) a thocyn plentyn yn 拢11.50 (sy'n cynnwys 拢1.50 o ffi archebu), gyda gostyngiad i blant ar daith ysgolion a grwpiau mawr. Mae hyn yn cymharu 芒 拢9 neu 拢10 i oedolyn yn y lleoliadau eraill a phlant yn amrywio o 拢7 i 拢9, yn 么l gwefannau'r theatrau.

Dydy Rhian Brewster o Gaerdydd ddim wedi prynu tocynnau i'w theulu weld y sioe eto, mae'n rhaid ystyried y gost meddai. Mae'r ffaith fod y tocyn cymaint yn ddrutach i weld yr un sioe yng Nghaerdydd o gymharu 芒 theatrau eraill Cymru yn ei phoeni.

"Mae 'na gynulleidfa eitha' mawr o Gymry Cymraeg dosbarth canol sy'n mynd i bethau diwylliannol yn y brifddinas, ond 芒 dweud hynny, dydyn nhw ddim yn gwerthfawrogi cael eu chargo cymaint yn fwy i weld rhywbeth yn y Gymraeg, a dydy hynny ddim yn annog cynulleidfaoedd newydd i fynd i weld cynyrchiadau Cymraeg.

"A dyna'r pwynt i fi, bod mynd i weld y sioe yng Nghaerdydd yn werth 拢5 neu 拢10 y pen yn fwy, nag yw e i fynd i weld yr un sioe yn rhywle fel Aberystwyth neu Fangor.

"Fi'n gwbod nad y cwmni theatr sy'n gosod y prisiau a 'wi'n derbyn bod angen i ganolfannau a chwmn茂au sy'n teithio gyfro eu costau, ond fi 'di gweld hyn o'r blaen gyda chynyrchiadau sydd wedi cael eu cynnal ym Mhontypridd neu yng Ngartholwg. Weithiau maen nhw'n rhoi'r un sioe 'mlaen 芒 sy'n cael ei rhoi 'mlaen yng Nghanolfan y Mileniwm ac mae'r pris yn llawer llai yn yr ardaloedd.

"Mae'n edrych yn sioe wych a dwi'n gobeithio y cawn nhw gynulleidfa dda. Dwi wrth fy modd yn mynd 芒'r plant i'r theatr ond dwi ddim yn si诺r os ydy hwn yn rhywbeth y byddwn ni'n gallu fforddio mynd iddo."

Ffynhonnell y llun, Cwmni Theatr Bara Caws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan yn gyfres gomedi boblogaidd yn yr 1980au

Mae Ceri Tegwyn, sy'n fam i ddau o blant yng Nghaerdydd yn cytuno bod y ffaith bod yn rhaid i drigolion Caerdydd dalu cymaint yn fwy i weld yr un sioe yn siomedig.

"Roedd o'n double whammy mewn ffordd. Roeddwn i'n gweld y tocynnau'n ddrud yn y lle cyntaf, a wedyn oedd o'n ymddangos fel ein bod ni'n cael ein chargo fwy am ein bod ni'n byw yng Nghaerdydd ac yn mynd i weld y sioe yng Nghanolfan y Mileniwm.

'Amser drud o'r flwyddyn'

"Oedd o'n siom ac mae'n amser drud o'r flwyddyn. Efallai adeg arall o'r flwyddyn bysen ni 'di gallu amsugno'r gost, ond oedd 'na no w锚 y bydden ni'n talu'r gost yna. Byswn i'n disgwyl talu llai na 拢10 i blant. Maen nhw'n marchnata'r sioe ar gyfer plant pedair oed i fyny, a dydy plant pedair oed ddim yn gallu gwylio sioe hir iawn, felly dydy o ddim fatha dy fod yn cael gwerth dy arian.

"Ond mae fy nheulu yng nghyfraith wedi prynu'r tocynnau i fynd, ac maen nhw'n mynd 芒 fy mab hynaf i weld y sioe."

Roedd un mam arall o Gaerdydd wedi bwriadu annog teulu a ffrindiau Cymraeg a di-Gymraeg i fynd i weld y sioe, gyda'r bwriad o ddenu cynulleidfaoedd newydd i'r theatr, ond wedi gweld y prisiau uchel, doedd hynny ddim yn opsiwn, meddai.

"Roedd yn siom fawr i weld pris y tocynnau. Oeddwn i 'di penderfynu mynd doed a dd锚l a wedi gweld y paratoadau yn Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol roeddwn i'n edrych mlaen. Roeddwn i hefyd yn bwriadu annog ffrindiau Cymraeg a di-Gymraeg i fynd, ond wedi gweld y prisiau d'on i ddim yn teimlo y gallwn i.

"Mi awn ni'n y diwedd mae'n si诺r, er dydyn ni ddim wedi prynu ein tocynnau eto, ond mae'n sicr yn siom ac yn gadael rhywfaint o flas cas yn y geg.

"Dwi'n llawn sylweddoli ei fod yn anodd i gynyrchiadau theatr, ond dwi'n teimlo bod hyn yn colli cyfle i'r sioe fod yn fwy ac i ddenu mwy o bobl. Achos ein bod ni fel rhieni yn adnabod y cynhyrchiad, yn nabod y cymeriadau ac yn gwybod beth mae ein plant ni'n ei fwynhau, fel arfer bysen ni'n annog pobl eraill i fynd i weld hwn, pobl byse ddim fel arfer yn mynd i gynyrchiadau Cymraeg," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Linda Brown o Theatr Bara Caws yn cydymdeimlo gyda rhieni Caerdydd

'Cydymdeimlo'

Dywedodd Linda Brown o gwmni Theatr Bara Caws: "Dwi'n cydymdeimlo, dwi 'di magu plant fy hun ac mae gen i wyrion. Mae 'na gymaint o bethau ymlaen a dwi'n gwybod pa mor brysur ydy hi i deuluoedd adeg yma o'r flwyddyn.

"Mae hon yn sioe fawr, yn sioe Gymreig, dydy hi ddim yn sioe arferol Bara Caws sy'n ffitio i mewn i'r Sherman neu'r Chapter. Mae 'na ganu a dawnsio. Rydyn ni wedi dewis Canolfan y Mileniwm fel lleoliad yng Nghaerdydd am ei fod yn addas i'r math o sioe. Nid dim ond sioe i blant ydy hi, mae hi i oedolion hefyd - i'r teulu i gyd.

"Rydan ni wedi cysylltu gyda Chanolfan y Mileniwm a dweud bod 'na gwynion. 'Dan ni wedi gofyn i'r Ganolfan i ddod 芒'r pris i lawr. Maen nhw wedi gostwng y pris i ysgolion a dwi 'di gofyn iddyn nhw ostwng y pris i deuluoedd hefyd."

Yn 么l datganiad ar y cyd rhwng Canolfan y Mileniwm a Chwmni Theatr Bara Caws: "Cafodd y prisiau hyn eu cytuno drwy gontract rhwng y lleoliad a'r cynhyrchydd a oedd yn seiliedig ar brisiau gafodd eu pennu ar gyfer ymweliad diwethaf Theatr Bara Caws yn 2008 gyda cynhyrchiad Llyfr Mawr y Plant.

"Rydyn ni wedi cytuno ar y cyd ar amryw o ostyngiadau i grwpiau ac ysgolion i ennyn diddordeb a denu cynulleidfaoedd i'r cynhyrchiad arbennig yma."