Cymeradwyo cais i ailddatblygu hen ysbyty meddwl Dinbych

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cais i ailddatblygu hen ysbyty meddwl Dinbych.

Bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei drawsnewid yn unedau busnes a 34 o fflatiau, a bydd 200 o dai hefyd yn cael eu hadeiladu ar dir cyfagos.

Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog sy'n gyfrifol am y cynlluniau, aeth gerbron Cyngor Sir Ddinbych fore Mercher.

Daw eu menter wedi i'r awdurdod lleol ennill brwydr yn y llys i weithredu gorchymyn prynu gorfodol oddi wrth y perchnogion presennol, Freemont (Denbigh).

Yn gynnar yn 2017, bydd perchnogaeth y safle gael ei throsglwyddo i Gyngor Sir Ddinbych, ac yna'n syth i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru.

Bwriad yr ymddiriedolaeth yw gweithredu fel menter di-elw, a chodi'r arian ar gyfer atgyweirio a chadw'r adeiladau rhestredig wrth werthu'r eiddo newydd fydd yn cael ei adeiladu.

"Rydyn ni eisiau achub yr adeilad ond cael tai o safon o'i gwmpas," meddai Pennaeth Cynllunio a Gwarchodaeth Cyhoeddus y cyngor, Graham Boase.

Fe gyfaddefodd bod rhywfaint o "risg" yn ymwneud 芒'r cynllun, ond fod adeilad yr hen ysbyty yn un "hyfryd" ac yn "ased cenedlaethol".

Ychwanegodd y cynghorydd David Smith: "Mae'r safle yma wedi bod yn boen i ni ers sawl, sawl blwyddyn ond rydyn ni wedi buddsoddi tipyn o amser yn y peth... 'dyw'r perchnogion presennol heb wneud unrhyw beth."

Cafodd safle'r ysbyty ei brynu gan Freemont yn 2003 ac fe gafodd caniat芒d cynllunio ei roi yn 2006 ar gyfer cynllun ailddatblygu, ond daeth y caniat芒d hwnnw i ben heb i unrhyw waith gael ei wneud.

Roedd y cwmni, sydd wedi'u lleoli yn Ynysoedd Virgin y DU, wedi gwrthwynebu'r gorchymyn prynu gorfodol.