麻豆官网首页入口

拢17m ar gyfer ysgol Gymraeg newydd Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
campws newyddFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid o 拢17m ar gyfer adeiladu campws newydd i ysgol Gymraeg ym Mhort Talbot.

Fe fydd lle i 650 o blant oedran uwchradd 11-16 fel rhan o'r datblygiad newydd ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields, fydd yn ail gampws i Ysgol Ystalyfera.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r datblygiad yn bodloni'r galw cynyddol gan ysgolion cynradd Cymreig yn ne'r sir.

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyfrannu 拢6.4m tuag at gyfanswm cost y prosiect, gyda 拢10.7m yn dod gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.

"Un ysgol uwchradd Gymraeg yn unig sydd gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, ac mae'r ysgol honno yng ngogledd y sir," meddai'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

"Bydd yr arian hwn yn helpu i fodloni'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y rhanbarth ac yn lleihau dipyn ar yr amser teithio i rai disgyblion."