Cynyddu pris tollau i groesi Pont Hafren o Ionawr 2017

Mae'r cwmni sydd yn gyfrifol am ail Bont Hafren wedi cadarnhau y bydd pris tollau ar gyfer cerbydau sydd yn croesi'r bont Hafren yn codi o 1 Ionawr 2017.

Mae'r cynnydd yn golygu y bydd gyrwyr yn talu 1.3% yn fwy i groesi'r ddwy bont.

Ar hyn o bryd mae hi'n costio 拢6.60 i gerbydau Categori 1, sef ceir a charafanau teithiol, ond o fis Ionawr ymlaen mi fydd y gost yn 拢6.70.

Bydd y gost ar gyfer faniau cludiant bychain a bysiau maint llai yn 拢13.40, sydd yn gynnydd o 20c, ac fe fydd cynnydd tebyg i 拢20 ar gyfer loriau HGV.

Dywedodd Phil Smith, prif weithredwr Severn Crossing PLC: "Mae'r prisiau croesi yn amrywio yn flynyddol i gyd fynd gyda Deddf Pont Hafren 1992.

"Maen nhw'n cael eu cytuno gyda'r Swyddfa Drafnidiaeth a chael eu cadarnhau gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth cyn y mis Rhagfyr blaenorol."

Ychwanegodd y cwmni nad oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth yngl欧n 芒 chost posib y tollau unwaith y bydd y bont yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.