麻豆官网首页入口

Yo! Yo! Papur, bro!

  • Cyhoeddwyd
Papurau bro
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydy'ch papur bro chi ynghanol y pentwr?

Faint ohonoch chi sy'n darllen eich papur bro? Gyda mwy a mwy ohonom yn troi at gyfryngau cymdeithasol a'r we i gael ein newyddion lleol, pa mor bwysig ydy'r to ifanc i gadw'r hen draddodiad yn fyw?

Mae Marged Rhys, sy'n 26 oed ac yn aelod o'r band Plu, yn credu bod gan ein pobl ifanc ni r么l allweddol i'w chwarae. Bu'n siarad gyda Cymru Fyw:

Cau'r bwlch

Nes i symud yn 么l i Gaernarfon yn ddiweddar, ar 么l treulio dros chwe mlynedd yn byw yn ninasoedd Bryste ac yna Caerdydd.

Ro'n i'n teimlo'n hiraethus o'r ardal a'r gymuned ac felly, ers dychwelyd, dwi wedi taflu fy hun mewn i weithgareddau gwahanol sy'n fy nghadw i'n brysur iawn. Un o'r rheiny yw r么l fel Golygydd yr Ifanc i bapur bro

Er taw yng Nghaernarfon dwi'n byw r诺an - ardal - Cofi Gwlad o Fethel ydw i ac felly Eco'r Wyddfa fydd fy mhapur bro i o hyd.

Roedd sawl rheswm pam wnes i benderfynu dod yn rhan o weithlu'r papur. Y cyntaf, er mwyn ail-gysylltu gyda fy ardal leol. Mae'r papur yn adlewyrchiad o'r gymuned, gyda phytiau o hanes yr ardal, newyddion lleol, lluniau'r bobl a mwy.

Ro'n i hefyd eisiau datblygu mwy o sgiliau, gan nad ydy hi fyth rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd.

Mae papurau bro yn dueddol o ganolbwyntio ar dair cenhedlaeth sef plant oed ysgol, eu rhieni, a'u neiniau a theidiau.

Ond anaml bydd papurau bro yn rhoi llwyfan i'r genhedlaeth sydd yn y bwlch - y twenty-somethings, y rhai oedd yn cofio'r papur yn y t欧 pan yn blentyn ond wedi anghofio amdano ar 么l symud ffwrdd.

Dwi'n credu bod gan y genhedlaeth yma gymaint i'w gyfrannu i bapurau bro, sgiliau fyddai'n gallu dod 芒'r papur i sylw cynulleidfaoedd newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Marged (chwith) yn rhan o'r band Plu gyda'i chwaer Elan, a'i brawd Gwilym

Ar un llaw, mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn wych ar gyfer papurau bro i helpu hyrwyddo ac ymgysylltu gyda'r gynulleidfa yn ogystal 芒 darganfod newyddion i'r papur.

Ond, ar y llaw arall, mae'n diystyru pwrpas y papur bro fel llwyfan newyddion gan fod pawb bellach yn derbyn eu newyddion lleol (priodasau, babis newydd, marwolaethau, digwyddiadau a mwy) ar Facebook.

Mae'n bwysig felly bod y papurau bro yn esblygu ac yn cynnig rhywbeth ychwanegol na all y cyfryngau hyn gynnig.

'Da ni wedi dechrau 'Tudalen yr Ifanc' yn yr Eco'n ddiweddar sy'n canolbwyntio ar roi proffil i bobl ifanc o'r ardal sy'n gweithio mewn pob mathau o feysydd diddorol - crefftwyr, wardeniaid natur, blogwyr a mwy.

'Da ni'n gobeithio bydd hyn yn denu cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac yn ein helpu i gadw'r papur bro yn fyw am flynyddoedd i ddod.