O'r archif: Radio Cymru yn 40 oed

Mae'r unig orsaf radio Gymraeg genedlaethol yn dathlu 40 mlynedd o fod ar yr awyr. Roedd rhaglenni Cymraeg wedi bod yn darlledu ar y donfedd ganol ers yr 1930au, ochr yn ochr 芒 rhaglenni Saesneg. Ond ar fore 3 Ionawr 1977 fe aeth Radio Cymru yn fyw, ac mae'n parhau i fod hyd heddiw. Dyma rai lluniau archif i nodi'r garreg filltir ddiweddara':

Disgrifiad o'r llun, Er mai Geraint Jones gyflwynodd y gwasanaeth i'r gwrandawyr, Gwyn Llewelyn (uchod) oedd llais cyntaf y bwletinau newyddion
Disgrifiad o'r llun, Roedd Alun Williams yn llais cyfarwydd i ddilynwyr newyddion a chwaraeon Radio Cymru tan ei ymddeoliad yn 1982
Disgrifiad o'r llun, Bu John Roberts Williams yn cyflwyno'r rhaglen wythnosol Tros Fy Sbectol am bron i 30 mlynedd
Disgrifiad o'r llun, 'Mr Radio Cymru' ei hun, Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd rhaglen gyntaf yr orsaf, Helo Bobol! yn 1977
Disgrifiad o'r llun, Roedd Sulwyn Thomas yn cynnal ei 'Stondin' bob amser cinio am flynyddoedd ar y gwasanaeth cenedlaethol
Disgrifiad o'r llun, Yr actorion Emyr Wyn a Dewi Pws yn 'paratoi' ar gyfer rhaglen o Dros Ben Llestri yn 1987
Disgrifiad o'r llun, Beti George, Russel Isaacs ac Alan Pickard - cyflwynwyr rhaglenni Ar yr Awr ac O'r Newydd yn yr 1980au
Disgrifiad o'r llun, Ian Gill, Delyth Morgan a Kevin Davies - s锚r y gyfres Bamb诺 ar Radio Cymru - yn 1989
Disgrifiad o'r llun, Nia Roberts, un o leisiau mwyaf cyfarwydd yr orsaf ers dyddiau Ocsiwnia
Disgrifiad o'r llun, Y band Cwlwm o Lambed yn 1990. Roedd ganddyn nhw eu cyfres eu hunain ar Radio Cymru bob dydd Sadwrn. Ymysg yr aelodau mae Elin Jones (ail o'r chwith), sydd bellach yn Llywydd y Cynulliad, a Sh芒n Cothi (canol) sy'n cyflwyno ar yr orsaf heddiw
Disgrifiad o'r llun, Garry Owen, Sian Thomas, a Gareth Glyn - cyflwynwyr rhaglen y Post Cyntaf yng nghanol y 90au
Disgrifiad o'r llun, Rhai aelodau o griw Radio Cymru ym Mangor yn 1998
Disgrifiad o'r llun, Eifion Jones, neu Jonsi fel roedd yn cael ei adnabod gan y genedl
Disgrifiad o'r llun, Rebekah 'Beks' Walters a Dafydd Du - lleisiau ffres i'r orsaf yn y 90au
Disgrifiad o'r llun, Daf Du yn arwain taith Ram Jam! o amgylch ysgolion Cymru
Disgrifiad o'r llun, Daeth Huw Stephens yn lais amlwg ar Radio Cymru - a thu hwnt - yn y degawd wedi troad y mileniwm
Disgrifiad o'r llun, Manon Rogers, Tudur Owen a Dyl Mei - triawd mwyaf poblogaidd yr orsaf erbyn hyn?
Disgrifiad o'r llun, Ym mis Medi 2016 fe ddechreuodd gorsaf dros-dro Radio Cymru Mwy ddarlledu fel rhan o ddatblygiadau digidol yr orsaf i nodi ei phen-blwydd yn 40 oed