麻豆官网首页入口

Mesur Cymru: Datganoli grym dros beiriannau gamblo

  • Cyhoeddwyd
peiriant

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael pwerau newydd i ddelio gyda phroblemau peiriannau gamblo.

Wrth i Fesur Cymru fynd drwy'r Senedd yn San Steffan, mae Llywodraeth y DU nawr yn bwriadu datganoli cyfrifoldeb am beiriannau gamblo lle mae'r arian sy'n cael ei fetio yn fwy na 拢10.

Daw'r newid yn dilyn gwelliant gafodd ei gynnig gan y Blaid Lafur, ac wedi adolygiad mae Llywodraeth y DU wedi cynnwys fersiwn o'r gwelliant yn y Mesur er mwyn caniat谩u i'r grym gael ei ddatganoli.

Gyda thystiolaeth yn dangos bod peiriannau fel hyn yn un o'r dulliau mwyaf caethiwus o gamblo, bydd y pwerau newydd yn galluogi gweinidogion Llywodraeth Cymru i daclo'r broblem ar lefel leol.

Mae hefyd yn dod 芒 Chymru'n gyfartal gyda'r pwerau sydd eisoes gan Senedd y Alban.

Disgrifiad,

Profiad un dyn oedd yn arfer bod yn gaeth i gamblo

Mae peiriannau 'fixed odds', fel maen nhw'n cael eu galw, yn caniat谩u i bobl fetio hyd at 拢100 bob 20 eiliad, sy'n sylweddol fwy na'r mwyafswm o 拢2 ar beiriannau arferol.

Gan fod y peiriannau yn talu enillion o hyd at 拢500, maen nhw'n cael eu gweld fel problem fawr i nifer o bobl fregus mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae mwy na 1,500 o'r peiriannau yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Jo Stevens AS: "Mae hon yn fuddugoliaeth bwysig i helpu rheoli gamblo sy'n gallu difetha bywydau.

"Gall gamblo cyfrifol fod yn hwyl ddiniwed, ond mae'r peiriannau yma wedi cael eu cymharu i goc锚n, ac yn gallu achosi niwed go iawn a pharhaol."