麻豆官网首页入口

Pryder am brentisiaid a myfyrwyr o Gymru wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Prif Weithredwr elusen Colegau Cymru, Iestyn Davies yn pryderu am y sefyllfa

Mae elusen Colegau Cymru wedi dweud bod pryder y bydd Brexit yn golygu bod myfyrwyr a phrentisiaid o Gymru yn colli cyfleoedd i wethio'n ddi-rwystr ar y cyfandir, a bod llai o gyllid ar gael.

Yn ogystal mae pryder am gynllun Erasmus+, sy'n galluogi myfyrwyr a phrentisiaid i weithio'n gwbl ddi-rwystr yn Ewrop ac sy'n adnabod cymwysterau, pan fydd y DU yn gadael yr undeb.

Mae prif weithredwr yr elusen, Iestyn Davies, wedi teithio i Lundain i lob茂o aelodau seneddol er mwyn ceisio sicrhau nad yw dysgwyr Cymru yn dioddef.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ymrwymiad i gefnogi o leiaf 100,000 o brentisiaid o bob oed erbyn 2020.

'Cyfleodd ardderchog'

Mae Llywodraeth Cymru yn glir o ran pwysigrwydd prentisiaethau er mwyn creu gwlad fwy llewyrchus, ac i dalu am hyn mae 拢285m wedi'i glustnodi, gyda 拢83m neu 29% yn dod o Ewrop.

Er ei fod yn weledigaeth hir dymor, y pryder yw y bydd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith ar y cynllun, gan atal prentisiaid rhag mynd i weithio dramor.

Mae pryder hefyd am golli buddsoddiad sy'n dod i mewn o Ewrop.

Fis Ebrill fe fydd cyflogwyr yn gorfod talu treth, treth fydd yn mynd at hyfforddi prentisiaid, ond nid yw'n glir eto faint y bydd coffrau'r llywodraeth yn elwa o'r drefn newydd.

Dywedodd Iestyn Davies bod prentisiaethau a chynlluniau tebyg yn bwysig i roi cyfle i bobl ddefnyddio eu sgiliau mewn cyd-destun ehangach, ac y gallai pobl ifanc golli cyfleoedd.

"Mae sgiliau gydol oes, sgiliau galwedigaethol a sgiliau addysgol i ryw raddau yn sgiliau y maen rhaid i chi eu defnyddio yn fyd eang, a bod yn barod i ddeall eich cyfraniad chi i gyflogwr drwy ddeall eich sgiliau chi drwy'r cyd-destun hynny.

"Mae profiadau drwy Erasmus+ er enghraifft yn rhoi cyfleodd ardderchog i ddysgwyr...i gael profiad ehangach o sut mae eu sgiliau nhw yn ymateb i'r byd y tu hwnt i Gymru."

Ffynhonnell y llun, Hyfforddiant Ceredigion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Jones o Dregaron yw Prentis Plymar gorau Prydain

Daw'r pryder wrth i fachgen o Dregaron gipio gwobr Prentis Plymar Gorau Prydain.

Aeth Gareth Jones o Dregaron i Birmingham a churo plymwyr eraill o Iwerddon, yr Alban a Lloegr.

Ar 么l ennill yn Birmingham bydd Gareth Jones yn mynd i'r Almaen ym mis Mawrth i gynrychioli Prydain yn rownd nesa'r gystadleuaeth.

Nos Fawrth aeth cynrychiolwyr o Colegau Cymru i Lundain i lob茂o aelodau seneddol o Gymru i sicrhau nad yw prentisiaid y wlad ar eu colled yn y tymor hir yn sgil Brexit.

Ar hyn o bryd cwestiwn mawr elusen Colegau Cymru yw beth fydd yr hinsawdd a pha arian fydd ar gael i fyfyrwyr y dyfodol i'w helpu nhw i dorri llwybr eu hunain fel prentisiaid.