麻豆官网首页入口

Ffrae iaith dros arwyddion 'brand' M&S yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
M&S food hallFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dadl y cwmni yw bod Foodhall yn enw brand

Mae ffrae yn corddi rhwng cynghorwyr Ceredigion a phenaethiaid Marks and Spencer yngl欧n ag arwyddion dwyieithog yn eu siop newydd yn Aberystwyth.

Dywed M&S bod "Foodhall" yn enw brand ac felly ni ddylid ei gyfieithu, ond mae'r cynghorwyr yn anghytuno.

Penderfynodd pwyllgor cynllunio'r sir i ohirio rhoi caniat芒d cynllunio ar gyfer arwyddion yn y siop newydd, fydd yn agor yn y gwanwyn.

Dywedodd Paul Hinge, aelod o bwyllgor cynllunio Ceredigion, eu bod yn derbyn na ddylid cyfieithu'r enw brand ei hun, Marks and Spencer.

"Rydym yn deall na allwch chi ddweud y dylai Caf茅 Nero neu Starbucks fod yn Gymraeg, a dyw hynny ddim yn digwydd," meddai.

"Ond fe ddylid cyfieithu pethau fel foodhall, clothing, toilets - y rhain i gyd - i'r Gymraeg."

Dadl M&S yw bod Foodhall yn rhan o'u brandio ac nad yw wedi ei gyfieithu mewn unrhyw leoliad arall.

Ffynhonnell y llun, PA

"Pe baen nhw'n gallu rhoi tystiolaeth nad yw wedi ei gyfieithu yn unrhyw le arall, yna fe allwn edrych ar y mater unwaith eto," meddai Mr Hinge.

Roedd swyddogion cynllunio'r sir wedi argymell rhoi caniat芒d i'r arwyddion, ond penderfynodd cynghorwyr i ohirio gwneud penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran M&S: "Mae'r term Foodhall yn rhan o'n brandio ac nid yw wedi ei gyfieithu mewn unrhyw siop arall, yng Nghymru neu dramor.

"Rydym wedi cydweithio yn agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn cynnig arwyddion dwyieithog a gwasanaethau dwyieithog yn ein siopau yng Nghymru, gan gynnwys addasu bathodynnau adnabod fel bod pobl yn gwybod pa aelod o staff sy'n medru'r Gymraeg."