麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Carys Eleri

  • Cyhoeddwyd
Carys Eleri

Carys Eleri sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Llwybr Llaethog yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Bod yn y cot yn ein t欧 cyntaf ym Mhorthyrhyd. Cofio twlu dummy allan o'r cot mewn ystafell borffor.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Fi 'run oedran 芒 Macaulay Culkin. Pan ddath y ffilm Home Alone mas, o'n i ishe tyfu lan a'i briodi fe.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Sai'n cywilyddio yn rhwydd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe mewn rihyrsal canu. Ma'r medley o ganeuon ni'n rihyrso ar gyfer ein gig nesa' yn eitha' emosiynol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wrth gwrs.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Sain Ffagan. Fel merch o'r wlad, fi'n caru dianc i'r hafan yma tu allan i Gaerdydd. Fi'n dwli cal chats da'r bobol sy'n gofalu am y tai a bod o amgylch y tanau sy'n llosgi ynddyn nhw. Ma'r gerddi mor hyfryd yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carys yn dwli ar gael 'chats' gyda'r tywyswyr yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fi'n CARU cymdeithasu felly ma' hwn yn gwestiwn anodd iawn. Ond es i i wlad yr I芒 ar gyfer Nos Galan eleni gyda chriw o 14 o bobol. Odd y Northern Lights mas yn Reykjavik y noson honno a sai byth 'di gweld cyment o d芒n gwyllt yn fy myw - o'n i ger y traeth ac odd y cwmni mor wych - wyth oedolyn a chwech plentyn.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cariadus, hwylus a sili.

Beth yw dy hoff lyfr?

Cyfres Terry Pratchett am wrach o'r enw Tiffany Aching. Fi ar yr un dwetha nawr, a hwnnw odd y llyfr dwetha' iddo fe ysgrifennu cyn ei farwolaeth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Michael Jackson a Mamgu

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carys wedi ennill canmoliaeth am chwarae Myfanwy'r Ficer yn y gyfres Parch ar S4C

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd. Bues i'n ddigon ffodus i ddal y dangosiad dwetha' yn Chapter, Caerdydd wthnos dwetha'. Licen i weld hi eto nawr 'mod i yn gwbod siwt mae'n gorffen.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nofio yn y m么r yn y nos.

Dy hoff albwm?

Bad gan Michael Jackson. Ma' bachgen bach fy ffrind i newydd droi yn wyth oed ac yr un mor obsessed da fe ag o'n i yr oedran 'na.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?

Cheese board.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Madonna. Neu Meryl Streep.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Tara Bethan