麻豆官网首页入口

Tollau is Pont Hafren am achosi straen yn Sir Fynwy?

  • Cyhoeddwyd
Tollau

Mae'n bosib y bydd straen ychwanegol ar y farchnad dai ac isadeiledd yn Sir Fynwy os bydd tollau Pontydd Hafren yn gostwng meddai arweinydd y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox bod angen i'r sir "gwrdd 芒'r her" o fod yn lle poblogaidd i fyw.

Mae disgwyl i dollau Pont Hafren gael eu haneru yn 2018 ac mae prisiau tai yn y sir wedi bod yn cynyddu wrth i bobl o Fryste brynu tai yno.

Dywedodd Mr Fox wrth y 麻豆官网首页入口 bod hyn yn gyfle enfawr i bobl a busnesau sir Fynwy.

Ond dywedodd hefyd "wrth i'r ardal ddod yn boblogaidd ac yn ddymunol, bydd pwysau ar farchnad dai ac ein hisadeiledd."

Heblaw am Lundain, Bryste yw'r economi sydd yn tyfu fwyaf ym Mhrydain ac mae'r prisiau tai yn codi yn gynt yno nag unrhywle arall yn y DU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Peter Fox yw arweinydd Cyngor Mynwy

Mae ardaloedd yn Sir Fynwy felly yn dod yn llefydd poblogaidd i bobl sydd yn fodlon cymudo. Mae gwerthwyr tai yn yr ardal yn dweud bod 80% o'r prynwyr bellach yn dod o ardal Bryste.

Am y rheswm hwnnw mae ffigyrau'n awgrymu bod prisiau tai yn yr ardal wedi cynyddu'n gynt na'r cyfartaledd ar draws Cymru.

Dywedodd Mr Fox: "Wrth i brisiau tai gynyddu bydd yn rhaid i ni allu darparu mwy o dai fforddiadwy er mwyn gwneud yn si诺r bod ein pobl ifanc lleol yn gallu aros yma. Mae hynny yn bryder.

Cadw pobl ifanc yn y sir

"Byddwn ni angen isadeiledd ychwanegol fel meddygfeydd, ysgolion a ffyrdd mwy bydd yn cael eu hariannu gan y datblygwyr."

Mae yna gynlluniau i adeiladu tai yn hen ardal y dociau yng Nghas-gwent a ger yr ysbyty tra bod stad o dai newydd am gael ei hadeiladu ger Magwyr.

Gobaith Mr Fox yw y bydd y lleihad yn y tollau yn denu busnesau yn 么l i'r sir ac y bydd pobl ifanc yn penderfynu aros yno.

"Rwy'n gynhyrfus yngl欧n 芒'r swyddi ychwanegol o bosib y byddwn ni yn gallu creu. Rydyn ni eisiau i'n plant gael y cyfleoedd i aros yma, i fagu teulu yma a chael swyddi gyda chyflogau da yma yn hytrach na'u bod yn gorfod gadael y sir i wireddu eu dyheadau."