麻豆官网首页入口

Glanaethwy yn Efrog Newydd

  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos roedd dros 70 aelod o G么r Glanaethwy yn canu ar lwyfan Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd. Roedden nhw'n perfformio darn coffa trychineb Aberfan, Cantata Memoria, gan Syr Karl Jenkins ar y cyd gydag aelodau o chwe ch么r o wahanol rannau o'r byd a cherddorfa lawn.

Diolch i Cefin a Rhian Roberts ac aelodau'r c么r am anfon rhai lluniau o'r daith at Cymru Fyw:

Hedfanodd aelodau C么r Glanaethwy i Efrog Newydd ddydd Iau i ymarfer gyda'r corau eraill a'r gerddorfa cyn y cyngerdd.

Ar 么l cyrraedd, taith mewn tacsi melyn. Pan yn Efrog Newydd...

Gwireddu breuddwyd - enw C么r Glanaethwy ymhlith y mawrion ar flaen Carnegie Hall.

Cafodd y c么r wahoddiad i berfformio wedi i drefnwyr y cyngerdd weld fideo ohonyn nhw ar wefan YouTube wedi eu hymddangosiad ar raglen Britain's Got Talent. Dywedodd Rhian Roberts wrth Cymru Fyw cyn y daith, "mae cael perfformio yn Carnegie Hall yn gymaint o fraint. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn."

Y c么r gyda'r cyfansoddwr Karl Jenkins a Dr Jonathan Griffiths, Arweinydd y cyngerdd ddydd Sadwrn.

Roedd y chwe ch么r o draws y byd, oedd yn ffurfio'r 300 o leisiau, wedi bod yn paratoi cyn cyrraedd Efrog Newydd, ond ychydig ddyddiau cyn y cyngerdd roedd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer yr ymarferion terfynol.

Cafodd sesiwn cwestiwn ac ateb ei chynnal gyda chyfansoddwr Cantata Memoria, Karl Jenkins.

Rhian Roberts, Catrin Finch a Cefin Roberts yn yr ymarferion, cyn y cyngerdd brynhawn Sul.

Y Bariton Mark Walters gyda rhai o'r c么r.

Aros i fynd i mewn i Carnegie Hall.

Llun gyda'r Arweinydd Dr Jonathan Griffiths.

C么r Glanaethwy ar lwyfan ysblennydd Carnegie Hall, yn barod i berfformio gydag aelodau'r chwe ch么r arall a'r gerddorfa.