'Argyfwng' prinder athrawon cyfrwng Cymraeg

Mae 'na rybudd fod rhai pynciau mewn ysgolion uwchradd yn wynebu "argyfwng" oherwydd prinder athrawon cyfrwng Cymraeg.

Yn 么l ffigyrau ddaeth i law Newyddion9, bu gostyngiad o 46% yn nifer y myfyrwyr a gwblhaodd ymarfer dysgu yn Gymraeg dros gyfnod o dair blynedd.

Mae cyfarwyddwr y cwrs mewn un prifysgol yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru lacio'r rheol, sy'n mynnu fod gan fyfyrwyr radd B yn eu Saesneg a mathemateg TGAU cyn gallu dechrau'r cwrs.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod datblygu gweithlu sy'n diwallu'r angen am addysg cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffigyrau'n dangos gostyngiad o 46% yn nifer y myfyrwyr a gwblhaodd ymarfer dysgu drwy'r Gymraeg ers 2013

Mae'r ffigyrau'n dangos fod 90 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau ymarfer dysgu uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae rhai eisoes wedi rhoi'r gorau i'r cwrs, ond dydy hi ddim yn hysbys faint.

Mae 40 o fyfyrwyr ym Mhrisfygolion Bangor ac Aberystwyth, sy'n cael eu cyfri fel un ganolfan, 24 yn Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant a 26 yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

78 gwblhaodd y cwrs uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2015/16 (y flwyddyn academaidd ddiwethaf) o'i gymharu 芒 145 yn 2013/14.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gwyn Tudur bod y sefyllfa yn "bryder mawr"

Mae'r proffesiwn dysgu yn methu 芒 denu graddedigion, medd pennaeth Ysgol Tryfan ym Mangor, Gwyn Tudur: "Mae o'n bryder mawr ac yn bryder ers llawer o flynyddoedd ac mae gostyngiad pellach yn niferoedd y flwyddyn hon yn ei gwneud yn fwy difrifol.

"Mae'n argyfwng mewn rhai pynciau: mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg. Dyda ni ddim yn gallu denu'r mathemategwyr gorau a gwyddonwyr yn 么l i ysgolion."

Gall myfyrwyr sydd 芒 graddau dosbarth cyntaf ennill cymaint 芒 拢23,000 wrth astudio ar gyfer cymhwyster dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad o'r fideo, Yn 么l Gina Morgan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, mae angen adolygu'r cymwysterau sydd eu hangen i hyfforddi i fod yn athro.

I sicrhau lle ar gwrs hyfforddi athrawon mewn prifysgol yng Nghymru, mae angen gradd B mewn TGAU Saesneg/Cymraeg a mathemateg. Dydy'r gofynion hynny ddim yn bodoli mewn prifysgolion yn Lloegr, ac mae rhai'n galw am adolygu'r polisi yng Nghymru.

Yn 么l Gina Morgan, cyfarwyddwr y rhaglen ar gyfer hyfforddiant athrawon uwchradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r polisi.

"Un o'r rhesymau sy'n rhwystr gwirioneddol i rai o'n darpar fyfyrwyr yw bod yn rhaid iddynt fod 芒 gradd B mewn Saesneg a mathemateg TGAU a does gan nifer o'n ymgeiswyr ddim y proffil ddeuol honno.

"Gall hynny mewn gwirionedd fod yn ddigon iddyn nhw droi cefn ar hyfforddi yng Nghymru. Felly, mae'n bosibl bod gennym fyfyrwyr a fyddai'n hoffi hyfforddi gyda ni, ond am resymau fel y gradd B maen nhw'n mynd drosodd i Loegr a does wybod lle byddant yn cael eu swyddi."

Diwallu'r angen

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod datblygu gweithlu sy'n diwallu'r angen am addysg cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd llefarydd: "Golyga hyn gynllunio'n ofalus i gefnogi'r gwaith o ddatblygu athrawon a chynorthwywyr, ehangu cynlluniau sabothol ar gyfer y gweithlu cyfredol, a chynyddu nifer y gweithwyr sydd yn y sectorau gofal plant a blynyddoedd cynnar, a hynny o gryn dipyn."