Toll Pont Hafren yn 'anghyfreithlon' ar 么l 2019, medd AC
- Cyhoeddwyd
Byddai'n anghyfreithlon i weinidogion San Steffan godi t芒l i deithio dros Bont Hafren ar 么l 2019, medd AC UKIP.
Dywedodd Mark Reckless bod y gyfraith yn dweud y gall y tollau barhau dim ond nes bod 拢80m wedi cael ei gasglu ar 么l i'r pontydd ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried herio Llywodraeth San Steffan yn y llys pe bydden nhw'n parhau i gynnal y tollau, meddai.
Dywedodd Llywodraeth y DU, sy'n bwriadu cwtogi'r tollau, ei bod yn "benderfynol o wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Prydain".
Gostwng i 拢3
Fe gyhoeddodd gweinidogion San Steffan gynlluniau'r wythnos diwethaf i leihau cost y tollau i 拢3 ar gyfer ceir a cherbydau bychan eraill.
Mae Llywodraeth Cymru a'r holl bleidiau eraill yn y Cynulliad o'r farn y dylai'r tollau gael eu diddymu.
Mae Llywodraeth y DU eisiau parhau i godi t芒l am y pontydd i ariannu'r gwaith o'u cynnal a'u cadw, ac i ad-dalu dyled sy'n gysylltiedig 芒 nhw, unwaith y byddan nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2017/18.
Dywedodd Mr Reckless, ar 么l i'r pontydd ddod yn 么l i'r sector gyhoeddus, bod Llywodraeth y DU yn gallu codi t芒l i gasglu swm penodol yn unig - tua 拢80m.
Ychwanegodd bod hynny'n debygol o gael ei godi erbyn diwedd 2019.
"Oni bai bod Llywodraeth y DU yn pasio deddf seneddol newydd neu'n newid Deddf Pontydd Hafren, fy nadl i yw y byddai unrhyw gynllun codi t芒l sy'n arwain at barhad toll yn anghyfreithlon," meddai.
"Yn y pen draw os dyw Llywodraeth y DU ddim yn parchu'r Cynulliad na'r ddadl gyfreithiol gryf sydd gennym ni, dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i'r llys."
Yn siambr y Senedd yn gynharach yn yr wythnos, fe gwestiynodd Mr Reckless hefyd sut y gallai'r tollau barhau yn ei leoliad presennol - yng Nghymru - am fod rheolau am godi t芒l ar ffyrdd yn fater sydd wedi'i ddatganoli.
Mae Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates wedi cytuno i gwrdd 芒 Mr Reckless i drafod cyfreithlondeb y sefyllfa.
Dywedodd wrth ACau ei fod "wedi synnu" gan resymeg Llywodraeth y DU i barhau 芒'r doll gan fod dyled Pont Humber yn Sir Efrog wedi cael ei ddileu.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Mae'r llywodraeth yn benderfynol o wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Prydain a bydd gostwng y tollau ar Bontydd Hafren yn torri ar gostau busnesau, gan helpu i roi hwb i swyddi a masnach yng Nghymru ac ar draws y de-orllewin."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2017