麻豆官网首页入口

Pwyllgor o ASau yn galw am ddiweddaru stoc trenau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Trenau Arriva CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Trenau Arriva Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am wasanaethau Cymru a'r Gororau ers 2003

Mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU fuddsoddi'n sylweddol yn rheilffyrdd Cymru os am wella gwasanaethau yn y blynyddoedd nesaf, yn 么l pwyllgor o ASau.

Dywedodd adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig bod y cerbydau presennol ar gyfartaledd yn 27 oed, a bod y "rhwydwaith yn dioddef" oherwydd hynny.

Roedd yr ASau hefyd yn feirniadol o'r ffaith na wnaeth y fasnachfraint ar gyfer gwasanaeth Cymru a'r Gororau baratoi'n ddigonol ar gyfer twf yn nifer y teithwyr pan gafodd ei roi i Trenau Arriva Cymru yn 2003.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael y p诺er i benderfynu ar weithredwyr masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau yn 2018.

Fe gyfaddefodd Trenau Arriva Cymru bod angen gwella'r stoc trenau a bod diffyg capasiti yn broblem, ond ychwanegodd nad oedd "atebion hawdd na chyflym" i'r sefyllfa.

'Heb ystyried cynnydd'

Cafodd y fasnachfraint bresennol ei chyflwyno yn 2003 am gyfnod o 15 mlynedd, ond dywedodd yr adroddiad na fu "unrhyw ystyriaeth ar y pryd o'r twf posib yn niferoedd y teithwyr".

Ers 2003 bu cynnydd o 75% yn nifer y teithwyr, ac er gwaethaf camau gan gwmni Trenau Arriva Cymru a Llywodraeth Cymru, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y "gost yn uwch na'r disgwyl, a'r gwelliannau felly dipyn yn llai".

Er hynny, mae disgwyl y bydd gwelliannau isadeiledd, a thrydaneiddio'r rhwydwaith, yn gwella'r gwasanaeth.

Awgrymodd y pwyllgor y dylai Cymru hefyd gael y dewis cyntaf ar drenau sydd ddim eu hangen bellach oherwydd uwchraddio ar rwydweithiau eraill.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

AS Mynwy, David Davies yw cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig

"Roedd y penderfyniad i wobrwyo masnachfraint 2003 heb unrhyw ystyriaeth o gynnydd yn nefnydd y rheilffyrdd yn gamgymeriad aruthrol," meddai cadeirydd y pwyllgor, David Davies AS.

"Yn sgil hyn, ni fuodd buddsoddiad digonol, a bu'n rhaid i deithwyr ddelio 芒'r sgil-effeithiau, megis diffyg seddi ar drenau brwnt.

"Wrth dendro'r fasnachfraint newydd yn 2018, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am sicrhau gwelliannau. Dywedodd y Llywodraeth wrthym fod hyn yn gyfle am weddnewidiad. Os yn llwyddiannus, mi fydd teithwyr Cymru yn manteisio'n fawr."

Ychwanegodd David Davies eu bod hefyd yn argymell bod ASau Saesnig yn cael llais wrth graffu ar waith y fasnachfraint, gan y byddai nifer o deithwyr o Loegr hefyd yn defnyddio'r gwasanaeth.

'Tanwario ar Gymru'

Mewn ymateb, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates nad oedd y fasnachfraint bresennol "yn addas i'w bwrpas", ond y byddai Llywodraeth Cymru yn gwella'r gwasanaeth unwaith roedd y pwerau hynny wedi eu datganoli iddyn nhw.

"Dwi'n croesawu argymhellion y pwyllgor fydd yn gymorth i ni ar gyfer y fasnachfraint nesaf," meddai.

"Er nad yw pwerau a chyllido isadeiledd wedi'i ddatganoli eto, rydyn ni wedi buddsoddi 拢200m yn y rhwydwaith trenau rhwng 2011 a 2015 er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael gwell gwasanaeth.

"Yn ystod y cyfnod yna dim ond 1% o wariant Llywodraeth y DU ar wella rheilffyrdd y mae Cymru a'r Gororau wedi ei dderbyn- er bod 6% o'r traciau yma - ac mae'n rhywbeth rydyn ni wedi gofyn droeon wrth Lywodraeth y DU i'w daclo."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Trafnidiaeth San Steffan eu bod wedi buddsoddi 拢2 biliwn yn isadeiledd rhwydwaith trenau Cymru, gan gynnwys trydaneiddio a buddsoddi mewn gwasanaethau yn y de, ac ailosod signalau ar hyd llinell y gogledd.

'Dim atebion hawdd'

Cafwyd croeso i'r adroddiad gan Trenau Arriva Cymru, a ddywedodd ei fod yn cydnabod gwelliannau sydd wedi eu gwneud i'r rhwydwaith ers 2003.

"Mae'r adroddiad hefyd yn tanlinellu'r angen am fwy o stoc newydd i gymryd lle'r fflud bresennol," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Pan ddyfarnwyd y fasnachfraint yn 2003 ni ystyriwyd yn ddigonol y twf yn nifer y teithwyr rydyn ni wedi'i weld yng Nghymru, ac mae sicrhau digon o le ar y gwasanaeth yn parhau i fod yn bryder i gwsmeriaid, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

"Byddwn ni'n parhau i gefnogi a gweithio'n agos 芒'n partneriaid yn y llywodraeth i edrych ar sut allwn ni leihau'r problemau gyda chapasiti sydd yn wynebu ein cwsmeriaid.

"Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn iawn i gydnabod nad oes atebion hawdd na chyflym i'r broblem."