麻豆官网首页入口

Ansawdd addysgu Cymru yn wan meddai'r arolygydd, Estyn

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion

Mae ansawdd addysgu yng Nghymru yn wan yn 么l adroddiad blynyddol yr arolygydd addysg, Estyn.

Mae'r adroddiad gan y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands yn dweud mai dyma'r "agwedd gwanaf" ar draws y sector addysg, ac nad yw ysgolion yn gwneud digon i gefnogi staff i ddatblygu sgiliau proffesiynol.

Yn yr adroddiad, mae'n dweud y byddai gwella ansawdd y dysgu yn cael "effaith hirdymor" ar safonau.

Wrth ymateb, dywedodd yr ysgrifennydd addysg bod yr adroddiad yn rhoi "tystiolaeth werthfawr" all gynorthwyo'r gwaith o wella safonau ym myd addysg.

'Dysgu hyderus a chreadigol'

Dywedodd Mr Rowlands bod yr hyn sydd angen ei wneud i godi safonau mewn addysg yng Nghymru "yn dod yn fwy eglur a bydd gwella addysgu'n cael effaith hirdymor ar ansawdd a safonau yn yr ystafell ddosbarth".

"Mae gan yr athrawon gorau ddisgwyliadau uchel, maent yn herio'u disgyblion ac maent yn meddwl am eu harfer eu hunain yn feirniadol," meddai.

"Mae ar arweinwyr addysg angen ffocws cryf ar ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel i feithrin addysgu a dysgu hyderus a chreadigol."

Disgrifiad,

Meilyr Rowlands yw prif arolygydd y corff arolygu, Estyn

Yn y sector cynradd roedd cynnydd eto eleni mewn perfformiad llythrennedd a rhifedd, presenoldeb ac ymddygiad disgyblion, ac roedd safonau yn dda neu'n well mewn saith o bob 10 ysgol gafodd eu harolygu.

Er hynny mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad nad yw disgyblion mwy galluog yn gwireddu eu potensial, oherwydd nad yw'r gwaith yn ddigon heriol.

O fewn y sector uwchradd mae pryder hefyd, gan fod y dysgu yn "dda neu'n well mewn lleiafrif yn unig o ysgolion uwchradd", a bod mwy o wahaniaeth rhwng ysgolion, gyda mwy yn perfformio'n rhagorol neu anfoddhaol na'r ysgolion cynradd.

Safonau Cymraeg 'amrywiol'

Pwnc arall sy'n codi yw safon y Gymraeg gyda'r arolygydd yn dweud bod y safonau yn parhau yn rhy amrywiol.

Mae'r adroddiad yn dweud bod safonau Cymraeg ail iaith wedi gwella rhywfaint mewn ysgolion Saesneg, ond dim ond canran fechan sy'n dewis gwneud y cwrs llawn a dyw disgyblion ddim yn defnyddio'r iaith ar lafar y tu allan i wersi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, bod yr adroddiad yn rhoi "tystiolaeth werthfawr" all gynorthwyo'r gwaith o wella safonau ym myd addysg, ac y byddai'n ymateb yn llawn yn y man.

Ychwanegodd: "Rydw i'n parhau wedi ymrwymo i'r uchelgais o roi'r sgiliau a gwybodaeth i bob athro allu bod o fudd i ddisgyblion a sicrhau bod ysgolion yn gallu cyflawni'r cwricwlwm newydd a'n darlun o addysg yng Nghymru."