Dechrau adeiladu gorsaf newydd 拢21.5m Heddlu'r Gogledd

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dyluniad artist o'r adeilad newydd

Mae'r gwaith yn dechrau ddydd Llun ar adeiladu gorsaf heddlu newydd gwerth 拢21.5m yn y gogledd-ddwyrain.

Mae'r orsaf "eco-gyfeillgar" yn cael ei hadeiladu ar dir hen warws yn Llai ger Wrecsam, a bydd yn cynnwys nifer o nodweddion i arbed ynni a chostau.

Bydd 32 o gelloedd yn yr adeilad a bydd 200 o blismyn a staff yn gweithio yno.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd 32 o gelloedd yn yr adeilad newydd