Cylchffordd Cymru: Pythefnos i gael cefnogaeth ariannol

Ffynhonnell y llun, Cylchffordd Cymru

Mae gweinidogion Cymru wedi rhoi pythefnos i'r datblygwyr sy'n gobeithio adeiladu trac rasio 拢425m yng Nglyn Ebwy i brofi bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth ariannol i symud 'mlaen gyda'r cynllun.

Mae Cylchffordd Cymru yn addo creu hyd at 6,000 o swyddi ym Mlaenau Gwent gan adeiladu'r trac rasio, gwestai ac unedau diwydiannol.

Mae gweinidogion wedi bod yn trafod gyda Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd y lefel o arian cyhoeddus ddylai gael ei fuddsoddi.

Cafodd cais i'r trethdalwr warantu'r holl brosiect ei wrthod gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ym mis Gorffennaf ei fod eisiau i'r cwmni ddod o hyd i o leiaf 50% o'r arian o ffynonellau preifat.

'Osgoi mwy o gostau'

Ddydd Mercher, dywedodd wrth ACau ei fod yn "bryderus" bod y cynllun wedi cael ei drafod ers blynyddoedd, ac nad oes digon o fuddsoddiad preifat wedi'i ganfod.

"Mae pobl Glyn Ebwy yn haeddu cael gwybod os yw'r cynllun yma yn mynd yn ei flaen - a'r hyn sy'n bwysig, pryd," meddai Mr Skates.

"Rwy'n awyddus i osgoi mwy o gostau mewn cysylltiad 芒 chynllun sydd heb ddyddiad terfynol.

"Rydw i felly wedi ysgrifennu at Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd heddiw yn gofyn iddyn nhw wneud cynnydd yn gynt ar y cynllun, ac iddyn nhw ddarparu tystiolaeth i mi o fuddsoddwyr o fewn y pythefnos nesaf."