Beirniadu ymgynghoriad ar ddyluniad Wylfa Newydd

Ffynhonnell y llun, Horizon

Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o gynnal ymgynghoriad "sarhaus" dros ddyluniad gorsaf ynni Wylfa Newydd.

Mae cwmni Hitachi eisiau adeiladu math gwahanol o adweithydd yno, ac fe gafodd gyfarfod rhanddeiliaid ei gynnal yn Birmingham ym mis Rhagfyr i drafod y dyluniad.

Mae gwrthwynebwyr y datblygiad yn dweud nad yw cyfarfod tebyg sy'n cael ei drefnu gan CNC yn un cyhoeddus.

Ond dywedodd y corff ei fod yn cynnal cyfres o sesiynau cyhoeddus ar Ynys M么n.

"Rydyn ni'n hyderus bod y sesiynau hyn yn rhoi cyfle teg i bobl gyfrannu at yr ymgynghoriad - byddwn ni'n gwerthfawrogi eu mewnbwn," meddai CNC.

Fe wnaeth y gr诺p ymgyrchu Pobl Atal Wylfa B (PAWB) ddisgrifio'r cyfarfod, fydd yn cael ei gynnal ar safle'r hen Wylfa ddydd Llun, fel "sen ar ddemocratiaeth".

'Annerbyniol'

Dywedodd Dylan Morgan o PAWB: "Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Ar fater mor bwysig 芒 hyn, sarhad ar bobl M么n a gogledd Cymru yw cynnal digwyddiad cyhoeddus ond preifat i wahoddedigion yn unig.

"I rwbio halen yn y briw, bwriedir cynnal y digwyddiad mewn ystafell ar safle Wylfa Magnox sydd ddim yn lleoliad niwtral o bell ffordd ac yn cadarnhau'r canfyddiad bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn dawnsio i diwn y diwydiant niwclear."

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gyfer dyluniad y math o adweithydd niwclear all gael ei adeiladu yn Wylfa Newydd.

Mae'r datblygwyr eisiau gosod adweithydd d诺r berwedig ar y safle, a dyma fyddai'r un cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae disgwyl i weinidogion y DU benderfynu ar y dyluniad ym mis Rhagfyr eleni.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dyluniad artist o adweithydd arfaethedig Wylfa Newydd

Mae PAWB wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths yn gofyn iddi ymyrryd am mai hi sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith CNC.

Dywedodd yr ymgyrchwyr: "Galwn arnoch i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i aildrefnu cyfarfod cyhoeddus mewn lleoliad niwtral, cyfleus a chanolog ym M么n.

"Mae'n rhaid i gyfarfod sy'n trafod proses asesu generig yr adweithydd ABWR Hitachi gael ei hysbysebu'n agored ac eang ac nid i 'nifer fach o wahoddedigion'."

Dywedodd CNC ei bod yn cynnal dwy sesiwn galw heibio cyhoeddus am y broses ddylunio yr wythnos nesaf - yng Nghemaes ddydd Llun ac yn Llangefni ddydd Mawrth.

Bydd y sesiynau yn galluogi i bobl "ddysgu mwy am yr asesiad ac am sut i leisio eu barn", meddai'r corff amgylcheddol.