Gormod o ddigwyddiadau awyr agored yn Eryri?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Rhedwyr yn cymryd rhan mewn ras ger pentref Llanberis

Mae pryderon bod gormod o ddigwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal mewn pentre' yn Eryri.

Mae Llanberis a Pharc Gwledig Padarn wedi dod yn boblogaidd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon antur ar raddfa fasnachol.

Ond mae rhai pobl leol yn dweud eu bod yn teimlo fod y digwyddiadau yn arwain at broblemau sbwriel, s诺n a thagfeydd.

Mae rhai trefnwyr digwyddiadau yn anghytuno, ac mae Cyngor Gwynedd yn dweud fod y digwyddiadau "o fudd i'r economi leol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Daeth un o gymalau cystadleuaeth seiclo'r Tour of Britain i Ddyffryn Peris yn 2013

Dywedodd sylfaenydd Ras Ryngwladol yr Wyddfa, Ken Jones, fod ffactorau "cadarnhaol a negyddol", ond fod y digwyddiadau awyr agored wedi dod yn bwnc llosg.

"Dydy dros 90% o'r pentref ddim yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth. Ond er hynny, maen nhw yn gorfod rhoi fyny gyda hyn oll," meddai.

"Mae llawer o bobl yn dod yma, ac wedyn yn mynd yn 么l yr un diwrnod - dydyn nhw ddim yn aros dros nos, a dydyn nhw ddim yn gwario rhyw lawer o arian yn y pentre'.

"Mae ganddyn nhw uchelseinyddion yn canu drwy'r bore ar y penwythnos... A dydy'r gymuned a'r pentre' ddim yn medru ymdopi 芒'r pharcio yn yr haf chwaith. Fel arfer mae maes parcio Pen-y-Pass yn llawn erbyn tua 09:00.

"Mae'r cwmn茂au sy'n trefnu digwyddiadau hefyd yn dod 芒'u cyfleusterau arlwyo eu hunain ar y cae chwarae, sy'n creu cystadleuaeth annheg."

Mae Mr Jones yn galw am gyfyngiad ar y nifer sy'n cymryd rhan yn y digwyddiadau, a phrosesau cofrestru llymach.

'Angen rheoli'n well'

Y llynedd, fe ddaeth tua 444,000 o bobl i gerdded yr Wyddfa.

Mae'r llyn, Parc Gwledig Padarn a chae chwarae'r Dd么l yn cael eu llogi i drefnwyr digwyddiadau chwaraeon masnachol am ffi gan y perchnogion - Cyngor Gwynedd.

Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn codi t芒l am y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal o fewn ffiniau'r parc, yn hytrach, mae trefnwyr yn cael eu hannog i gyfrannu at gynllun Rhoddion Ymwelwyr Eryri, sydd wedi casglu 拢3,500 mewn chwe mis ar gyfer sefydliadau achub mynydd lleol a chynnal a chadw llwybrau cerdded.

Mae rhiant lleol, nad oedd am gael ei enwi, wedi dweud ei bod yn poeni fod y digwyddiadau yn atal teuluoedd lleol rhag defnyddio'r cae chwarae.

"Fyddwn i ddim am weld y digwyddiadau yn dod i ben. Maen nhw jyst angen cael eu rheoli'n well," meddai.

"Weithiau mae'n teimlo fel mai'r digwyddiadau yma sy'n dod gyntaf. Ond fe ddylai'r cae chwarae fod ar gyfer y gymuned gyfan."

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd un person lleol ei fod am weld caeau chwarae ar gael i'r gymuned gyfan

Dywedodd Mr Jones, sydd hefyd yn gadeirydd ar bwyllgor Canolfan Gymunedol Llanberis, fod y ganolfan wedi bod yn llogi'r adeilad i gwmn茂au digwyddiadau, ond penderfynodd swyddogion i ddod a'r trefniannau i ben y llynedd.

"Maen nhw'n gadael mynydd o wastraff a sbwriel, yn enwedig ar ddiwrnod gwlyb," meddai. "Roedd gormod o bobl yma. Doedd y difrod roeddan nhw'n ei achosi ddim werth y drafferth."

Mae'r ganolfan gymunedol yn cael ei hariannu gan ffioedd o'r maes parcio cyfagos, ond dywedodd Mr Jones nad oedd angen y digwyddiadau i gadw'r maes parcio yn llawn.

Heriau

Dywedodd Stephen Edwards, trefnydd presennol Ras yr Wyddfa, ei fod yn croesawu'r diwydiant - ond fe ychwanegodd bod angen i'r digwyddiadau gael eu "rheoli'n well".

"Mae cael 800 neu 900 o bobl yn cymryd rhan yn ormod. Fydde synnwyr cyffredin byth yn caniat谩u mwy na 700," meddai.

Fe gyfaddefodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn wynebu heriau o ran diwallu anghenion defnyddwyr gwahanol, ond hefyd dywedodd y llefarydd fod gan faes chwarae Cae'r Ddol "bwysigrwydd arwyddocaol" a'i fod "yn allweddol wrth sicrhau llwyddiant y digwyddiadau hyn, sy'n denu nifer sylweddol o ymwelwyr i'r ardal pob blwyddyn".

Ffynhonnell y llun, Ken Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl leol yn pryderu fod gormodedd o bobl sy'n mynychu digwyddiadau yn cael effaith negyddol ar gyfleusterau'r ardal

Ychwanegodd: "Mae'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a'r cynnydd mewn cyfranogiad lleol mewn digwyddiadau o'r fath o fudd i'r economi leol.

"Fodd bynnag, oherwydd poblogrwydd yr Wyddfa, rydym yn gofyn i drefnwyr i edrych ar wahanol opsiynau o fewn ardal Eryri i gynnal digwyddiadau pan fo hynny'n briodol."

'Cythruddol'

Mae cwmni Rat Race o Sir Efrog, sy'n rhedeg digwyddiad Man vs Mountain, yn rhoi cyfran o'u helw i dimau achub mynydd a'r ambiwlans awyr, ac fe ddywedodd y trefnwyr eu bod yn "hapus iawn" i gymryd rhan yng nghynllun Rhoddion Ymwelwyr Eryri.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Rat Race, Jim Mee, fod yr honiadau nad yw'r digwyddiadau o fudd i'r economi leol yn "eithaf cythruddol".

"Mae 85% o'r bobl sy'n cymryd rhan yn dod o'r tu allan i'r ardal. Rydym yn fwriadol yn cael pobl i gofrestru ar ddydd Gwener ar gyfer y digwyddiad ddydd Sadwrn fel eu bod yn aros yn yr ardal. Mae'n arwyddocaol o ran busnesau gwely a brecwast, ac rydym yn defnyddio busnesau lleol ar gyfer ein parti wedi'r digwyddiad.

"Rydym yn defnyddio'r cae chwarae, ond yn fwriadol yn cadw oddi ar y cae p锚l-droed sydd wedi'i farcio. Rydym yn lliniaru unrhyw ddifrod sy'n cael ei achosi drwy wneud taliad i'r cyngor.

"Dwi ddim yn derbyn ein bod yn achosi niwsans drwy s诺n mawr."

Dywedodd trefnwyr ras Enter the Dragon eu bod yn rhoi arian i'r t卯m achub mynydd yn Llanberis a'u bod "yn ceisio defnyddio cwmn茂au o ogledd Cymru i ddarparu popeth a wnawn".