麻豆官网首页入口

Cronfa gwerth 拢10m i adfywio 12 o safleoedd drwy Gymru

  • Cyhoeddwyd
Hen GolegFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adeilad yr Hen Golwg oedd cartref gwreiddiol Prifysgol Aberystwyth yn 1872

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi cronfa gwerth 拢10m i helpu adfywio safleoedd ac eiddo gwag, a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Bydd trydydd cam Cronfa Benthyciadau Canol Trefi, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn rhoi cymorth i adfywio canol trefi mewn 12 ardal yng Nghymru.

Mae'r gronfa'n gweithio ar sail benthyciadau ailgylchadwy, meddai'r llywodraeth.

Ar 么l i'r arian gael ei ad-dalu, mae'n cael ei ddefnyddio eto i gyllido benthyciadau newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gobaith Carl Sargeant yw y bydd y benthyciadau'n cael eu hailgylchu i gyllido benthyciadau newydd

Mae'r cyllid benthyciadau wedi cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol Sir Ddinbych, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Sir Benfro, Wrecsam, Conwy, Powys, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion ac Ynys M么n.

Mae'r adeiladau a allai elwa o gael eu datblygu yn cynnwys hen orsaf drenau Heol Biwt yng Nghaerdydd, a hen orsaf betrol Victoraidd ac adeiladau ger y cei yn Aberdaugleddau.

Byddai yr Hen Goleg yn Aberystwyth, yr hen swyddfa basbort yng Nghasnewydd, ac adeiladau yng nghanol Wrecsam, Aberhonddu, Llandrindod, Y Drenewydd, Aberd芒r, Pontypridd, Y Rhyl, Caergybi a Chaernarfon hefyd yn elwa.

Ffynhonnell y llun, The Victorian Society
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hen orsaf drenau Heol Biwt yng Nghaerdydd - un o'r lleoliadau fydd yn cael budd o'r gronfa

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: "Bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol i adfywio canol eu trefi drwy ddod o hyd i ddefnydd newydd, cynaliadwy i'r eiddo a'r safleoedd gwag, fel cartrefi fforddiadwy, atyniadau i dwristiaid a lleoliadau hamdden.

"Yn ogystal 芒 gwneud canol trefi yn lleoedd mwy deniadol i fyw ynddynt, bydd y cynllun benthyciadau hwn yn helpu i ysgogi buddsoddiad yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal 芒 chefnogi'r economi leol."