麻豆官网首页入口

Cylchffordd Cymru: Cyhuddo cyfarwyddwyr o 'honiadau ffug'

  • Cyhoeddwyd
Cylchffordd CymruFfynhonnell y llun, Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd

Mae cyfarwyddwyr y cwmni tu 么l i gynllun 拢425m Cylchffordd Cymru wedi cael eu cyhuddo o wneud honiadau ffug am gefnogaeth ariannol.

Mae AS Mynwy, David Davies eisiau i Michael Carrick a Martin Whitaker roi caniat芒d iddo ryddhau recordiad o'u cyfarfod.

Dywedodd eu bod wedi gwneud honiadau ffug am sicrhau cefnogaeth ariannol gan gwmn茂au General Electric (GE) a BMW.

Mae cyfreithiwr y cyfarwyddwyr yn dweud bod honiadau Mr Davies yn "ddarn o ffuglen".

'Cyfalaf'

Yn 么l Mr Davies, fe wnaeth Mr Carrick, prif weithredwr y cwmni tu 么l i'r fenter - Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd (CDBC) - ddweud ei fod wedi "dod a chyfalaf" o gwmni General Electric (GE) i gynllun arall yn Fleetwood, Sir Gaerhirfryn.

Dywedodd GE nad oedd wedi cynnig unrhyw gyfalaf ar gyfer y cynllun hwnnw, tra bod cwmni BMW yn dweud nad oedd "ar unrhyw adeg" wedi datblygu unrhyw gynlluniau mewn perthynas 芒 chynllun Cylchffordd Cymru i ddatblygu'r trac rasio ym Mlaenau Gwent.

Roedd cyfarwyddwr arall CDBC, Martin Whitaker wedi dweud bod BMW wedi gwneud hyn yn yr un cyfarfod, meddai Mr Davies.

Dywedodd Mr Whitaker nad oedd am wneud sylw pellach, ac fe ddywedodd Mr Carrick bod y cyfarfod gyda Mr Davies yn un cyfrinachol.

Mae Mr Carrick yn gyfarwyddwr ar CDBC, ac fe dderbyniodd y cwmni yma grant o 拢2m gan Lywodraeth Cymru yn 2012.

Fe dalodd CDBC gwmni arall, Aventa Capital Partners Limited, bron i 拢1m.

Mr Carrick yw unig gyfarwyddwr Aventa, a dywedodd wrth 麻豆官网首页入口 Cymru y llynedd ei fod wedi derbyn yr 拢1m am "wasanaethau".

Ffynhonnell y llun, Cylchffordd Cymru

Mae Mr Davies yn dweud ei fod wedi cael clywed gan Mr Carrick mewn cyfarfod y llynedd bod Aventa wedi "dod a chyfalaf" ar gyfer cynllun adnewyddu arall - sef argae ar draws yr Afon Wyre yn Fleetwood.

Dywedodd Mr Davies: "Fe wnes i ofyn am esiampl, a dywedodd Michael 'GE'.

"Fe wnes i ofyn 'wyt ti'n golygu General Electric', ac fe ddywedodd yntau 'cywir'."

Ond mae cwmni GE wedi cadarnhau mewn e-bost sydd wedi ei weld gan 麻豆官网首页入口 Cymru nad oedd "wedi cynnig unrhyw arian" ac er ei fod wedi parhau i drafod agweddau technegol y cynllun, doedd y cwmni "heb gynnig dim mwy na hynny".

BMW

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi clywed fod Mr Davies hefyd wedi gofyn cwestiynau i Mr Whitaker - prif weithredwr cwmni Cylchffordd Cymru - yn yr un cyfarfod.

Dyma'r cwmni sy'n gobeithio rhedeg y trac rasio os bydd yn cael ei adeiladu.

Dywedodd Mr Whitaker eu bod wedi cael "cyfarfod mawr" gyda BMW, oedd, meddai, am adeiladu 'Byd BMW' ar y safle, oedd am fod "ychydig fel Jurassic Park".

Ond fe ddywedodd BMW wrth Mr Davies mewn e-bost nad oes gan y cwmni "unrhyw gynlluniau am unrhyw brosiectau ar y safle" ac nad ydyn nhw "ar unrhyw adeg wedi datblygu'r fath gynlluniau".

Mae llythyr gan gyfreithwyr ar ran Mr Carrick yn dweud nad oedd unrhyw honiadau o'r fath wedi cael eu gwneud am BMW ac ni ddywedwyd wrth Mr Davies bod GE wedi rhoi arian i Aventa.

Dywedodd Mr Davies: "Maen nhw wedi gwneud honiadau sydd, yn syml, ddim yn dal d诺r ac maen nhw wedi gwneud honiadau yn dweud nad oedd fy fersiwn i o ddigwyddiadau wedi digwydd, sydd mewn gwirionedd yn fy nghyhuddo o ddweud celwydd.

"Wnaeth o ddim croesi eu meddyliau fy mod i, cyn i mi wneud yr honiadau hyn, a gyda'r manylder yr oeddwn wedi eu gwneud, wedi recordio'r holl gyfarfod."

'Darn o ffuglen'

Mewn ymateb, dywedodd cyfreithiwr ar ran Mr Carrick ag Aventa: "Honiad Mr Davies yw bod fy nghleientiaid wedi dweud fod 'BMW eisiau adeiladu parc thema BMW ar safle Cylchffordd Cymru'.

"Ni ddywedodd fy nghleientiaid y fath beth - sy'n cael ei gadarnhau gan eu nodiadau o'r cyfarfod.

"Mae'n dilyn felly fod yr 'anghysondeb' honedig yn ddarn o ffuglen, ac mai Mr Davies yw'r awdur.

"O ran yr honiad fod Mr Davies wedi clywed bod 'GE wedi rhoi arian i mewn i Aventa am gynllun adnewyddu sylweddol ar yr afon Wyre yn Sir Gaerhirfryn' - ni ddywedwyd y fath beth wrtho."

'Rhyddhau'r recordiad'

Ond wrth ymateb i hyn, dywedodd Mr Davies: "Mae fy sialens i Michael Carrick a Martin Whitaker yn syml - does dim cyfraith am wneud recordiad.

"Fe all cwestiwn godi am ei ryddhau heb gytundeb pawb oedd yn y cyfarfod.

"Rwyf am ryddhau hwn, rwyf am ddangos i bawb beth ddigwyddodd a gadael i bobl wneud eu casgliadau eu hunain am yr hyn sydd, ac sydd ddim, mewn cyd-destun, a'r hyn ddigwyddodd.

"Rwy'n eu hannog i gytuno i ryddhau'r recordiad o'r cyfarfod."