Mwy yn gwrando ar Radio Cymru

Mae'r niferoedd sy'n gwrando ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru wedi codi o'i gymharu 芒'r chwarter blaenorol.

Bu cynnydd hefyd yn niferoedd gwrandawyr Radio Wales.

Erbyn diwedd y flwyddyn roedd 114,000 yn gwrando ar yr orsaf Gymraeg, yn 么l y ffigyrau ymchwil cynulleidfaoedd radio (RAJAR).

Mae'n gynnydd o'i gymharu 芒'r chwarter rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, lle'r oedd 101,000 o bobl wedi gwrando ar yr orsaf.

Rheiny oedd y ffigyrau gwrando isaf ers troad y ganrif.

Roedd 6,000 yn fwy o bobl wedi gwrando yn y chwarter diwethaf o'i gymharu 芒'r un cyfnod flwyddyn ynghynt (108,000).

Fe wnaeth Radio Wales hefyd weld cynnydd yn eu cynulleidfa, gan ddenu 375,000 o wrandawyr.