麻豆官网首页入口

Caernarfon yn cofio Brian Thirsk, sylfaenydd elusen GISDA

  • Cyhoeddwyd
Brian ThirskFfynhonnell y llun, Daily Post

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Brian Thirsk o Gaernarfon, sydd wedi marw yn 68 oed.

Yn wreiddiol o Langefni, roedd Mr Thirsk yn gyfrifol am sefydlu un o brif elusennau Caernarfon, GISDA, yn ogystal 芒 chreu'r clwb ieuenctid yn y dref.

Un oedd yn ei adnabod yn dda oedd Emrys Llewelyn, ac fe soniodd wrth Cymru Fyw am waith Mr Thirsk gyda rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig yr ardal.

Dywedodd: "Roedd Brian yn uchel iawn ei barch, ac roedd pobl y dref yn meddwl y byd ohono. Roedd ei deulu yn bwysig iawn i Brian, ac roedd yn meddwl y byd o'i wraig a'i blant.

"Mi fuo ni ar sawl taith rygbi efo'n gilydd efo'r Gogs [Chwaraewyr rygbi h欧n tref Caernarfon].

"Dwi'n cofio un daith i Brisbane, Awstralia, ac mi oedd Brian a fi wrth ein bodda' yn cael mynd i weld llefydd gwahanol. Mi fuo ni'n gweld y cae criced, ac mi gafo' ni tour o'r cae gan hogyn lleol.

Ffynhonnell y llun, Emrys Llewelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brian, Sue Gill ac Emrys Llewelyn yn Awstralia yn 2003 ar daith rygbi chwaraewyr h欧n, yn cyfarfod y Kangaroos mewn parc gwledig

"Mi oedd o di gwisgo'n smart mewn sport jacket pin striped, ac mi oedd na ferched o'r gorllewin yn gwneud sylw o'r peth.

"Ac ers hynny, mi oedd hi'n joc fawr bob tro oni'n gweld Brian, mi oeddwn i'n gwneud sylw ei fod wasdad yn gwisgo sport jacket go grand.

"Mi oedd yn gefnogol i'r clwb rygbi hyd nes y diwedd, a'r tro diwethaf i mi ei weld o oedd ryw bythefnos yn 么l ar y Morfa yng Nghaernarfon, bydd colled fawr ar ei 么l."

'Calon fawr'

Fe roddodd yr Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams deyrnged i Mr Thirsk mewn datganiad ar ei dudalen Facebook: "Newyddion trist iawn am Brian, cyfaill da, calon fawr, dyfalbarhad ac ymroddiad i'r achosion gorau un.

"Caernarfon ar ei cholled. Diolch i ti Brian am bopeth."

Treuliodd Mr Thirsk flynyddoedd fel aelod o fwrdd rheoli elusen GISDA yn y dref, a bu'n ganolog wrth sefydlu eu hostel cyntaf yng Nghaernarfon.

Mewn datganiad, dywedodd yr elusen eu bod yn "drist iawn o glywed am farwolaeth Brian".

"Hoffem dalu teyrnged iddo ar ran pawb o GISDA, mae ein hostel cyntaf yng Nghaernarfon, Hafan, wedi cartrefu cannoedd o bobl ifanc dros y blynyddoedd ers ei agor yn 1989. Roedd ganddo weledigaeth glir ac yn teimlo'n gryf ac angerddol dros gyfleoedd teg a chyfartal i bobl ifanc.

"Diolch yn fawr iddo am ei gyfraniad amhrisiadwy dros bobl ifanc yr ardal. Cydymdeimlwn yn ddwys gyda'r teulu."

Ffynhonnell y llun, Emrys llewelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brian [y talaf yn y cefn] a gweddill t卯m Gogs Caernarfon yn ymwed 芒 Christchurch yn 1995