麻豆官网首页入口

Moscow fach

  • Cyhoeddwyd

Ganrif yn 么l, ar 8 Mawrth 1917 dechreuodd Chwyldro Rwsia yn St Petersburg. Yn dilyn llofruddiaeth Tsar Nicholas II a'i deulu aeth Rwsia drwy gyfnod o ryfel cartref a arweiniodd at sefydlu'r Undeb Sofietaidd.

Fe reolodd y comiwnyddion yr Undeb Sofietaidd rhwng 1922 a 1991, ond roedd gan y digwyddiadau yno oblygiadau ym mhob cwr o'r byd, nid yn unig yn Rwsia. Drwy'r ugeinfed ganrif fe drodd Cuba, China, Rwmania, Angola a llawer o wledydd eraill at ideoleg y comiwnyddion.

Roedd hyn hefyd yn wir am y Rhondda, lle roedd gan y comiwnyddion bresenoldeb am rai degawdau. Oherwydd hyn cafodd Maerdy yn y Rhondda y llysenw 'Moscow fach'.

Roedd Annie Powell o Benygraig yn gynghorydd comiwnyddol, ac fe chafodd ei hethol fel Maer yn y Rhondda yn 1979 pan oedd yn ei 70au.

A hithau'n ganrif ers Chwyldro Rwsia ac yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, dyma hanes y ddynes a wnaeth gymaint o argraff ar bobl y Rhondda.

Mae Rob Griffiths, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Prydain, yn cofio natur Annie Powell yn iawn.

"Mae'r bobl yn y Rhondda yn dal i gofio Annie Powell," meddai Mr Griffiths. "Wnes i weld hi'n siarad cwpl o weithia, ac roedd hi'n sicr yn gallu areithio ac roedd ganddi lais cryf.

"Roedd hi'n llym iawn. Os oedd y cyfarfod yr oedd hi'n ei gadeirio i ddechrau am ddau o'r gloch, bydde'n dechrau am ddau, heb oedi eiliad, gyda phwy bynnag oedd yn bresennol neu absennol yno.

"Roedd hi'n hen ffasiwn fel yna, yn y ffordd draddodiadol gomiwnyddol ddisgybledig, ond tu fas i gyfarfodydd roedd hi'n gymeriad cyfeillgar, agored a phoblogaidd iawn yn lleol."

Disgrifiad,

Annie Powell yn siarad ar raglen Heddiw yn 1979

Mae'r awdur Gareth Miles hefyd yn cofio cymeriad Annie: "'Nes i ymuno 芒'r Blaid Gomiwnyddol yn 1983, ac o'n i'n gwybod am Annie a'i chefndir fel Maer yn y Rhondda ac aelod o'r cyngor. Roedd y genhedlaeth yna o gomiwnyddion yng Nghymru yn bobl barchus iawn, yn ddisgybledig a moesol.

"Roedden nhw'n bobl alluog iawn a fyse wedi medru dod yn eu blaenau yn faterol ac yn gymdeithasol os fyse nhw wedi ymuno 芒'r Blaid Lafur. Roedden nhw'n bobl egwyddorol iawn, ac roedd Annie Powell dwi'n meddwl yn berson felly."

"Dwi'n cofio stori gan gyfaill i mi, a oedd yn berson blorotaraidd iawn, tra'n canfasio dros Annie Powell yn y Rhondda, dywedodd hi wrtho fe a'i ffrind: 'Don't go there, they're religious people'. Roedd ganddi ofn y bydde nhw'n tramgwyddo'r bobl grefyddol."

Ar daith i Foscow yn 1960, tra'n cynrychioli'r Blaid Gomiwnyddol, fe wnaeth Annie Powell gyfarfod ag arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Nikita Khrushchev. Yn 么l y s么n, fe greodd hi dipyn o argraff ar Krushchev drwy ganu Hen Wlad Fy Nhadau o'i flaen.

Dywedodd Rob Griffiths: "Roedd hi o deulu crefyddol a oedd yn mynd i'r capel canolog yn Tonypandy. Fe ymaelododd hi 芒'r Blaid Lafur yn ystod streic y gl枚wyr, cyn dod yn ran o'r Blaid Gomiwnyddol.

"Daeth Annie at y comiwnyddion wedi'r dirwasgiad yn y 30au. Roedd hi'n gweld sut oedd y blaid honno'n ymgyrchu yn erbyn y means test yn erbyn diweithdra. Wrth gwrs fe roedd y Blaid Lafur yn y Rhondda yn gwneud hynny, ond roedd y comiwnyddion yn arwain y gad ar hyn, a chreodd hynny argraff fawr arni.

"Roedd yn rhaid iddi feddwl yn ddwys cyn ymuno 芒'r Blaid Gomiwnyddol yn 1938. Mae'n bosib iddi golli ffrindiau o ganlyniad i'w phenderfyniad i ymuno 芒'r comiwnyddion, oherwydd yn 么l yr adroddiadau roedd y brwydro rhwng y ddwy blaid yn chwerw iawn yn y Rhondda, gyda Llafur yn ymladd 100% yn erbyn unrhyw fygythiad.

"Roedd hyn er gwaetha'r ffaith mai polisi y comiwnyddion ar y pryd oedd i fod mor gyfeillgar 芒 phosib efo'r blaid Lafur - mewn undod yn erbyn diweithdra ac undod yn erbyn ffasgiaeth.

"Ond doedd arweinwyr y Blaid Lafur ddim yn derbyn yr undod hynny, er i'r undod dyfu ar lefel lleol. Ond roedd yr ymosodiadau gan Lafur ar y comiwnyddion yn y Rhondda yn chwyrn iawn, ac roedd o'n ymgyrch warthus yn erbyn y cynghorwyr Comiwnyddol, yn fy marn i."

Rhwygiadau

Mae Gareth Miles hefyd yn cofio'r anghydfod gwleidyddol a'r rhaniadau o fewn y Blaid Gomiwnyddol: "Y strategaeth oedd gan y blaid yn y cyfnod oedd cynghreirio mor agos a bu modd i'r Blaid Lafur, efo rhyw syniad un dydd y bydd Llywodraeth Gynghrair rhwng Llafur a'r comiwnyddion, ond doedd 'na ddim gobaith o gwbl am hynny wrth gwrs.

"Roeddech chi'n gweld yn y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru a Phrydain yr un rhwygiadau ag oeddech yn eu gweld yn yr Undeb Sofietaidd a drwy'r byd, y croesdynnu. Doedd y Blaid Gomiwnyddol ar y pryd ddim yn Blaid Marxiaidd, a ddim yn defnyddio Marxiaeth fel arf i ddadansoddi'r sefyllfa a phenderfynu ar strategaeth.

"Roedd 'na rai yn y blaid yma yn derbyn yn ddigwestiwn y neges roedden nhw'n gael gan y Blaid Gomiwnyddiol yn Llundain, felly roedd y rhwygiadau yn anorfod i ddweud y gwir."

Disgrifiad,

Annie Powell yn trafod ei gobeithion i'r Rhondda

Ond beth am waddol Annie Powell yn y cymoedd? Faint o effaith gafodd ei gwaith ar yr ardal mewn gwirionedd?

"Dwi wedi ymgyrchu'n y cymoedd, ac mae'n wir i ddweud bod y bobl yno wedi troi'n 么l at y Blaid Lafur," eglurai Rob Griffiths. "Dim oherwydd beth ddigwyddodd yn y Rhyfel Oer, ond hefyd y llwyddiannau y cafodd y Llywodraeth Lafur yn y 1940au i sefydlu'r gwasanaeth iechyd, yr Yswirant Cenedlaethol a gwladoli'r pyllau glo.

"Ond er bod pobl wedi troi n么l at y Blaid Lafur yn y Rhondda, roedd dal llawer o barch tuag at y Blaid Gomiwnyddol mewn llawer o lefydd ac roedd gennym gynghorwyr yno tan yn hwyr yn yr 1980au, ar 么l dyddiau Annie Powell. Felly dwi'n meddwl y gwnaeth Annie helpu i ennill parch at y Blaid Gomiwnyddol yn hanesyddol.

"Ond tra'n ymgyrchu'n yr ardal yn y 90au, mae'n rhaid dweud bod y teyrngarwch yna wedi symud at y Blaid Lafur, ac hefyd at Blaid Cymru. Felly dydi pobl ddim yn edrych ar y Blaid Gomiwnyddol fel plaid etholiadol, ac mae Plaid Cymru wedi ennill ei lle fel 'y dewis arall'. Mae llawer o ewyllys da at y comiwnyddion wrth y drws, ond dydi o ddim yn troi mewn i bleidleisiau mewn etholiad.

"Ond mae'n bosib y gall y comiwnyddion ennill mwy o gefnogaeth yn y cymoedd, ac mae'r blaid dal yn weithgar yno."