Budd-dal anabledd wedi'i dynnu 'n么l mewn 'camgymeriad'

Disgrifiad o'r llun, Mark Hughes a'i lys-daid Fred Foulkes

Mae dyn gydag oed meddyliol o saith wedi cael gwybod y bydd ei fudd-daliadau anabledd yn ailddechrau ar 么l i'r Adran Gwaith a Phensiynau gyfaddef gwneud camgymeriad.

Fe wnaeth Mark Hughes, 30 oed o Wrecsam, gael llid yr ymennydd pan yn fabi.

Roedd ei lwfans byw ar fin dod i ben pan wnaeth 麻豆官网首页入口 Cymru gysylltu 芒'r Adran Gwaith a Phensiynau, sydd bellach wedi ymddiheuro.

Dywedodd deulu Mr Hughes efallai nad yw'n amlwg ei fod yn anabl ar yr olwg gyntaf, ond bod ganddo broblemau gyda'i symudedd, cydbwysedd a'i gof.

Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn wreiddiol wedi dweud nad oedd Mr Hughes yn gymwys i dderbyn y Taliad Annibyniaeth Personol - ac fe gafodd sg么r o ddim allan o 10 o ran bod yn gymwys.

Mae'n byw ar ei ben ei hun, ond mae'n derbyn help cyson ac mae prydau bwyd yn cael ei ddarparu iddo.

Cafodd wybod y byddai'n rhaid iddo fynychu asesiad pellach i dderbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

'Ymddiheuro'

Dywedodd llefarydd o'r Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae Mr Hughes 芒 hawl i Daliad Annibyniaeth Personol a byddwn mewn cysylltiad i ymddiheuro am y camgymeriad."

Mae AS dros Wrecsam, Ian Lucas, wedi galw i newid y system, gan ddweud nad yw'r broses bresennol yn gweithio.

"Rydyn ni'n gweld gormod o bobl gyda chyflyrau hyd oes fel Mark ddim yn derbyn cefnogaeth gan y llywodraeth o dan y broses Taliad Annibyniaeth Personol, ac rwy'n credu bod angen adolygu'r holl system ar frys," meddai.