麻豆官网首页入口

Ychwanegu 18 milltir at lwybr arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jim Craven, Stephen Lewis, Danielle Duncan a'r Cynghorydd Richard Lloyd yn helpu i osod arwyddion ar gyfer y llwybr newyddFfynhonnell y llun, Cyngor Fflint
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jim Craven, Stephen Lewis, Danielle Duncan a'r cynghorydd Richard Lloyd yn helpu i osod arwyddion ar gyfer y llwybr newydd

Mae cyswllt newydd wedi cael ei ychwanegu at y llwybr 870 milltir o hyd sydd o amgylch arfordir Cymru.

Mae'r rhan newydd 18 milltir o hyd yn ychwanegu at y llwybr yn Sir y Fflint, gan ymuno 芒'r llwybr ger y ffin yn Saltney Ferry, Sir Caer.

Mae'r llwybr yn ymestyn dros bedair sir, gan ymgyffwrdd 芒 rhannau o Wrecsam yng Nghaergwrle, a llwybr Clawdd Offa yng nghoedwig Llandegla yn Sir Ddinbych.

Fe sicrhaodd Cyngor Sir y Fflint 拢30,000 mewn cyllid i dalu am arwyddion i'r llwybr.

"Os ydych yn chwilio am dipyn o her wrth gerdded o amgylch Cymru, mae'r llwybr hwn yn addas i chi," meddai'r cynghorydd Bernie Attridge, aelod cabinet dros yr amgylchedd.

Llwybr Arfordir Cymru yw'r llwybr cyntaf o'i fath yn y byd, ac fe ddechreuodd y gwaith o osod y llwybr yn 2007, gan agor yn swyddogol ym mis Mai 2012.