Paul Flynn AS yn arwain dadl ar ymweliad Donald Trump

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mr Flynn nad oedd Mr Trump yn haeddu'r "fraint" o ymweliad Brenhinol

Dylai'r DU "osod esiampl" drwy beidio 芒 chaniat谩u i'r ymweliad gwladol sydd wedi ei gynllunio ar gyfer yr Arlywydd Donald Trump ddigwydd, yn 么l AS Llafur o Gymru.

Daeth sylwadau Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, wrth agor dadl gan Aelodau Seneddol ddydd Llun.

Mae'r ddadl yn dod wedi i ddeisebau o blaid ac yn erbyn yr ymweliad gael eu harwyddo gan dros 100,000 o bobl.

Cafodd Mr Trump ei wahodd i Brydain yn dilyn ymweliad i Washington ym mis Ionawr gan y Prif Weinidog, Theresa May, ond dyw'r manylion heb eu cadarnhau eto.

Ond mae'r gwahoddiad wedi ei feirniadu gan rai sy'n anhapus 芒 pholis茂au a sylwadau'r Arlywydd, yn enwedig ar fewnfudwyr a menywod.

'Ofn a phryder'

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwahoddiad ei roi i Mr Trump gan Theresa May ar ei hymweliad 芒'r UDA ym mis Ionawr

Fe wnaeth 1.85m o bobl arwyddo deiseb yn galw am atal Mr Trump rhag dod ar ymweliad gwladol, cyn i ddeiseb yn cefnogi'r ymweliad ddenu 311,000 llofnod.

Wrth agor y ddadl yn Neuadd Westminster, dywedodd Mr Flynn bod "teimlad mawr o bryder" wedi dod i'r amlwg.

Dywedodd bod protestiadau yn dangos yr "ofn a phryder bod rhywun yn y T欧 Gwyn sy'n defnyddio'r p诺er enfawr yma".

Ychwanegodd bod unigolion "annymunol" wedi bod ar ymweliadau yn y gorffennol, ond y dylai'r DU "osod esiampl drwy sicrhau nad ydyn ni'n gwneud yr un camgymeriadau eto".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Glyn Davies y byddai Mr Trump yn bartner pwysig i'r DU yn y blynyddoedd i ddod

Alan Duncan o'r Swyddfa Dramor wnaeth ymateb ar ran y llywodraeth, a dywedodd bod yr Arlywydd Trump a'r Arlywydd Obama wedi cael gwahoddiad ac felly ei fod yn "gwbl addas" bod yr Arlywydd Trump yn cael yr un cynnig.

Ychwanegodd: "Mae'n foment arbennig i'r berthynas arbennig. Dylai'r ymweliad ddigwydd. Bydd yr ymweliad yn digwydd, a phan mae hynny'n digwydd, mae disgwyl y bydd y DU yn cynnig croeso cynnes i'r Arlywydd Donald Trump."

Yn gynharach yn y dydd, dywedodd AS Maldwyn, Glyn Davies ei fod yn "gwbl resymol" i wahodd Mr Trump ar ymweliad gwladol.

Dywedodd nad oedd yn gefnogwr o Mr Trump a bod "nifer o bethau y mae wedi eu dweud sy'n sarhaus", ond fel Arlywydd yr UDA ei fod yn "bartner pwysig iawn o safbwynt diogelwch ac o safbwynt yr economi" yn y blynyddoedd i ddod".

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth tua 400 o bobl fynychu protest yng Nghaerdydd nos Lun

Cafodd nifer o brotestiadau eu cynnal yn erbyn yr ymweliad mewn amryw o leoliadau ar draws y DU i gyd-fynd 芒'r ddadl seneddol.

Cafodd llefarydd T欧'r Cyffredin, John Bercow ei feirniadu gan rai ASau ar 么l dweud na ddylai Mr Trump gael siarad yn y Senedd yn ystod ei ymweliad - sylwadau gafodd eu hategu gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth tua 100 o brotestwyr gynnal digwyddiad yn Abertawe