麻豆官网首页入口

Cynllun i wella'r M4 'ddim wedi'i lunio'n dda'

  • Cyhoeddwyd
M4 yng Nghasnewydd

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi rhybuddio na ddylai'r llywodraeth wario 拢1.1bn ar wella'r M4 ger Casnewydd.

Bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r prosiect yn dechrau'r wythnos nesaf, ond dywedodd Sophie Howe nad oedd y cynllun "wedi'i lunio'n dda".

Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu'r ffordd liniaru newydd er mwyn lleihau tagfeydd ar yr M4 ger twneli Bryn-glas.

Byddai rhan fawr o'r gost yn dod o bwerau benthyg newydd y llywodraeth.

'Elwa un rhan o Gymru'

Dan ddeddf gafodd ei phasio ddwy flynedd yn 么l, mae gan Ms Howe ddyletswydd i gynghori gweinidogion Cymru yngl欧n ag a yw polis茂au a phrosiectau'r llywodraeth yn cynnig y fargen orau i genedlaethau'r dyfodol.

Yn ei thystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus dywedodd nad oedd hi'n syniad da defnyddio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru i ariannu "un cynllun fydd, ar ei orau, yn golygu buddion daearyddol, economaidd a chymdeithasol anghymesur i un rhan o Gymru".

"Adeiladu ffyrdd yw beth 'dyn ni wedi bod yn ei wneud ers 50 mlynedd, ac nid dyna'r ateb ddylen ni fod yn chwilio amdano ar gyfer 2017 a thu hwnt," meddai.

Ychwanegodd y dylai'r ddyletswydd gyfreithiol i ystyried yr effaith ar genedlaethau'r dyfodol olygu bod y llywodraeth yn "ystyried ffyrdd eraill o ddatrys y broblem".