Achosion canser wedi codi dros gyfnod o ddeg mlynedd

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Mae canser y prostad yn parhau ymysg y mwyaf cyffredin yng Nghymru

Mae nifer yr achosion o ganser yng Nghymru wedi codi bron 10% dros gyfnod o ddeg mlynedd.

Cafwyd 19,088 diagnosis yn 2015, o'i gymharu 芒 17,389 yn 2006.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, y prif reswm dros y cynnydd yn y ddegawd ddiwethaf yw'r boblogaeth sy'n heneiddio.

Roedd yna gwymp bychan o'r 19,826 o achosion yn 2014 ond mae ffigwr 2015 yn debygol o gael ei ddiwygio a chynyddu dros amser.

Ar 么l ystyried ffactorau oedran, roedd cwymp o fwy na 5% mewn dynion ond cynnydd o fwy na 5% ymhlith menywod rhwng 2006 a 2015.

Rhan o'r rheswm am hyn yw bod cyfradd canser yr ysgyfaint wedi disgyn ond ar gynydd ymysg merched.

Disgrifiad o'r fideo, Dr Dyfed Wyn Huws yn esbonio rhai o'r rhesymau dros y cynnydd

Canser y fron, y prostad, ysgyfaint a'r coluddyn sydd yn parhau i fod fwyaf cyffredin.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng nghanran yr achosion o ganser yr iau, ceg, gwddf, a melanoma y croen, gyda chynnydd o draean hefyd yn y cyfraddau mesothelioma.

Roedd cwymp yn y cyfraddau o ganser y stumog a'r prostad.

'Modd osgoi'

Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws o Iechyd Cyhoeddus Cymru: ""Rydyn ni'n gwybod y gallai hyd at bedwar ym mhob 10 canser yn y boblogaeth fod yn rai y mae modd eu hosgoi."

Ychwanegodd bod y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ysmygu wedi lleihau cyfraddau, ond bod angen mwy o waith mewn meysydd fel gordewdra.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r ffactorau y mae modd eu rheoli allai arwain at ganser yn cynnwys defnyddio tybaco, yfed alcohol, gordewdra, pelydrau UV o'r haul a gwl芒u haul, diffyg ymarfer corff, a diffyg ffibr, ffrwythau a llysiau yn y diet.

Fe allai canser hefyd ddeillio o heintiau megis HPV, a pheryglon yn y gweithle fel dod i gysylltiad ag asbestos.