Colegau Cymru'n 'ymdopi 芒 thoriadau', medd adroddiad

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Er gwaethaf grantiau llai, mae Colegau Addysg Bellach Cymru yn ymdopi 芒 thoriadau gan Lywodraeth Cymru, medd adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae'r adroddiad - Goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach - yn amlygu toriadau o 拢22m mewn cyllid grant ar gyfer y sector rhwng 2012/13 a 2016/17.

Er hynny mae'r adroddiad yn dweud bod cyllid craidd ar gyfer darpariaeth llawn amser wedi codi 3% mewn termau real, tra bod cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser wedi gostwng 71%.

Yn 么l yr adroddiad mae hynny'n "adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu ei dyletswydd swydd statudol i wneud darpariaeth resymol ddigonol ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed".

Mae colegau wedi ymateb i setliadau ariannol llai drwy dorri costau, gan gynnwys gwneud gostyngiadau mawr yn y gweithlu.

Ychwanegodd yr adroddiad bod cyfuno colegau'n ddiweddar wedi gwella gwytnwch ariannol ar draws y sector, ond mae rhai colegau mewn sefyllfa well nag eraill i ddatblygu ffynonellau incwm eraill.

Yn eu tro mae'r colegau yn credu na fyddan nhw'n gallu parhau i ddiogelu pobl ifanc 16-19 oed os ddaw toriadau pellach.

Argymhellion

Er bod yr adroddiad yn dweud bod trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu a goruchwylio cyllid yn gadarn, mae'n cyflwyno nifer o argymhellion i wella'r sefyllfa:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod colegau yn paratoi cynlluniau ariannol tymor canolig, gan gynnwys rhagolygon ariannol tymor hwy;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn datblygu mecanwaith sy'n cyplysu cyllid yn agosach 芒'r galw tebygol am addysg bellach ym mhob maes;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso effaith y gostyngiadau mewn cyllid ar ddysgwyr er mwyn llywio penderfyniadau i'r dyfodol o safbwynt polis茂au a chyllid, fel ei gilydd.

'Angen adlewyrchu newidiadau'

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Huw Vaughan Thomas: "Er bod colegau addysg bellach wedi llwyddo i ymdopi 芒'r toriadau yn eu cyllid dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg bod eu cyllid dan straen gynyddol ac y gallent ei chael yn anodd cynnal swm a sylwedd y ddarpariaeth ar y lefelau presennol.

"Mae ar y sector angen cyfarwyddyd clir yngl欧n 芒'i le yn y cyd-destun polisi ehangach ar gyfer addysg 么l-16.

"Hefyd, mae angen i'r trefniadau cyllido adlewyrchu'n well y newidiadau lleol mewn angen."

'Cylch ariannu'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Prif Weithredwr Colegau Cymru, Iestyn Davies: "Fe glywson ni gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn Ionawr 2017 am sefydlu corff newydd hyd-braich i oruchwylio addysg a hyfforddiant y tu hwnt i'r hyn sy'n orfodol, felly mae'r adroddiad yma'n amserol a phriodol gan y bydd yn dystiolaeth mai'r hyn sydd angen yw strategaeth gadarn sy'n rhoi'r canlyniadau gorau i bob dysgwr 么l-16 oed yng Nghymru.

"Er mwyn i Gymru fod yn ddylanwad mewn termau economaidd, mae dull integredig gyda chylch ariannu tair blynedd yn hanfodol i'r sector.

"Does dim disgwyl i golegau gynllunio o flaen llaw heb ymrwymiad o'r cabinet y gallan nhw ddisgwyl yr adnoddau i gwrdd 芒 gofynion poblogaeth sy'n newid."