Llywodraeth yn cyfrannu at fuddsoddiad 拢20m GE Aviation

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae safle GE Aviation yn Nantgarw yn cyflogi 1,400 o bobl

Mae GE Aviation wedi dewis Cymru fel lleoliad ar gyfer gwaith cynnal a chadw i'r peiriannau jet mwyaf, a mwyaf effeithlon yn y byd.

Daw hynny yn dilyn penderfyniad gan y cwmni i fuddsoddi 拢15m yn y cynllun, gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig grant o 拢5m.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud ar safle GE Aviation yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf, sydd eisoes yn cyflogi 1,400 o bobl.

Mae disgwyl iddyn nhw gyflogi 65 o bobl yn ychwanegol er mwyn gallu gwneud gwaith atgyweirio ar yr injan GE9X.

Daeth y cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod rhwng y Prif Weinidog Carwyn Jones ac uwch-swyddogion y cwmni yn ystod ymweliad 芒 phrifddinas yr Unol Daleithiau, Washington DC.

'Pwysigrwydd strategol'

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau'r safle yn Nantgarw a gwella sgiliau'r gweithlu presennol dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau eu bod yn barod i gynnal a chadw'r GE9X pan fydd cwmni awyrennau Boeing yn dechrau eu defnyddio.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr GE Aviation yng Nghymru, Lan-Chun Lindsay, ei fod yn "ddiwrnod gwych i Gymru, yn enwedig i'n cymunedau ar draws y Cymoedd".

Ychwanegodd Mr Jones bod sicrhau ymrwymiad gan gwmni o faint GE Aviation "o bwysigrwydd strategol enfawr i economi Cymru".

"Mae'n newyddion hynod o dda bod y buddsoddiad yma'n mynd i gryfhau ei chynaliadwyedd tymor hir, cadw maint y cyfleuster a sicrhau y bydd yn parhau yn gystadleuol," meddai.