Cynghorydd Plaid Cymru wedi torri cod ymddygiad cyngor

Disgrifiad o'r llun, Mae Neil McEvoy wedi bod yn Aelod Cynulliad ers y llynedd

Mae panel disgyblu wedi barnu fod Neil McEvoy - yn ei r么l fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Dinas Caerdydd - wedi torri cod ymddygiad Cyngor Caerdydd.

Cafodd ei wahardd o'r cyngor am fis gan y Panel.

Ond mae'r panel wedi dweud nad oedd wedi dwyn anfri ar swydd cynghorydd nac ar enw da Cyngor Caerdydd.

Ym marn y tribiwnlys, roedd Mr McEvoy wedi bwlio aelod o staff yr awdurdod gyda'r bwriad o beri gofid iddi, ac o ddangos diffyg parch at y swyddog.

Mae Mr McEvoy bellach yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru hefyd.

Dywedodd y tribiwnlys fod Mr McEvoy wedi bwlio Deborah Carter drwy fygwth diogelwch ei swydd mewn digwyddiad yng Ngorffennaf 2015.

Bydd y panel yn penderfynu ar gosb Mr McEvoy, ac fe all hynny amrywio o'i wahardd fel cynghorydd am flwyddyn, neu ei ddiarddel am hyd at bum mlynedd.

Bu'r panel annibynnol yn clywed tystiolaeth am honiad fod Mr McEvoy wedi bygwth diogelwch swydd yr aelod staff mewn digwyddiad yng Ngorffennaf 2015.

Roedd Mr McEvoy wedi'i gyhuddo o dorri cod ymddygiad y cyngor wedi iddo fynd i'r llys i gefnogi tenant cyngor oedd yn wynebu cael ei gyrru o'i chartref.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Neil McEvoy y sylwadau honedig yng Nghanolfan Llysoedd Si铿乴 Caerdydd

Ymateb chwyrn

Cyn i'r tribiwnlys gyhoeddi'r dyfarniad llawn, roedd Mr McEvoy wedi bod yn trydar i ddangos ei ddicter at y broses gyfan.

Dywedodd: "Hoffwn fynegi fy nirmyg llwyr at y ffars sydd newydd gymryd lle."

Wrth gyhoeddi'r dyfarniad, dywedodd y tribiwnlys bod tystiolaeth Ms Carter wedi bod yn gredadwy tra bod Mr McEvoy wedi bod yn aneglur ac yn tueddu i osgoi ateb ar adegau.

Wedi'r gwrandawiad fe alwodd un aelod cynulliad Llafur ar arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, i wahardd Mr McEvoy o'r blaid. Dywedodd Rhiannon Passmore AC: "Dylai Leanne Wood wahardd Neil McEvoy o Blaid Cymru am ei fod wedi bwlio swyddog cyngor ym marn y Panel.

"Mae hon yn drosedd ddifrifol iawn ac fe ddylai ddangos nad yw ei phlaid ddiodde' bwlio o gwbl. Mae gan bob aelod o staff yr hawl i deimlo'n ddiogel yn y gwaith ac fe ddylai Leanne Wood ddangos ei bod hi'n credu hyn hefyd."

Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones: "Fe fyddwn ni'n adolygu penderfyniad y panel yr wythnos nesaf... rydym yn ystyried y mater o ddifri oherwydd, fel plaid, rydym yn disgwyl y safonau uchaf oddi wrth ein cynrychiolwyr etholedig.

"Does dim dadlau bod Neil yn gynghorydd gydag arddeliad sy'n gweithio'n galed iawn. Byddaf yn cwrdd wyneb yn wyneb gydag ef yr wythnos nesaf."