'Disgwyl llai o fyfyrwyr o Ewrop yng Nghymru wedi Brexit'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Athro Colin Riordan yn credu y bydd llai o fyfyrwyr o Ewrop yn astudio'n Nghymru yn dilyn Brexit

Mae disgwyl i lai o fyfyrwyr o Ewrop ddod i Gymru yn dilyn Brexit yn 么l Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan wrth raglen Wales Today y bydd ffioedd uwch a'r methiant i gael mynediad at fenthyciadau, mwy na thebyg, yn arwain at ostyngiad mewn niferoedd.

Mae'r Athro Riordan ar y llaw arall yn credu bydd Prifysgolion Cymru "yn gallu addasu" i unrhyw newidiadau drwy ail-strwythuro.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies AC bod Brexit yn gyfle i ddod 芒 mwy o arian i addysg uwch yng Nghymru.

Mae ffigyrau diweddara yn dangos bod ceisiadau i astudio yng Nghymru gan fyfyrwyr o Ewrop wedi gostwng ar 么l cynyddu'n flynyddol.

Roedd 4,400 cais ar gyfer 2017 - hynny i gymharu gyda 4,920 ar gyfer cyrsiau llynedd.

'Ffioedd uwch'

Dywedodd yr Athro Riordan bod Brexit wedi bod yn "sioc" ond bod y sector addysg uwch wedi "derbyn" y penderfyniad.

"Unwaith bydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd myfyrwyr o Ewrop yn methu sicrhau yr un amodau 芒 myfyrwyr o'r DU - yn ein hachos ni myfyrwyr o Gymru.

"Byddent yn talu ffioedd uwch ac yn methu derbyn bencythiadau myfyrwyr. Mae hynny yn gwneud i mi feddwl y bydd llai ohonynt yn dod i Gymru," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Andrew RT Davies yn hyderus y bydd Brexit yn golygu mwy o arian i'r sector addysg uwch

'Profiad arbennig'

Dywedodd Andrew RT Davies AC nad oedd yn credu y byddai niferoedd y myfyrwyr o Ewrop yn gostwng.

"Mae cyfle yma i farchnata'r agweddau positif o addysg uwch yng Nghymru," meddai.

"Mae'r adnoddau ymchwil sydd gennym yn arbennig, felly hefyd y profiad academaidd a phrofiad y myfyriwr. Yn hytrach na gweld ochr dywyll pethau beth am s么n am y sefyllfa fel cyfle gwych i ddod 芒 mwy o arian i'r sector addysg uwch yma yng Nghymru a dwi'n hyderus y gallwn wneud hynny."

Ychwanegodd yr Athro Riordan y gallai myfyrwyr o Ewrop gael eu gweld yn fwy gwerthfawr yn y dyfodol gan ddweud: "Bydd y rheiny sydd yn dod i Gymru yn dod 芒 mwy o arian fewn i'r prifysgolion.

"Felly, yn hynny o beth, efallai y byddan nhw yn fwy gwerthfawr i Brifysgolion Cymru yn y dyfodol," meddai.