麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
carwyn

Yr actor Carwyn Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Mirain Haf yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Eistedd ar gefn ceffyl pan ro'n i tua pedair oed, a darganfod am y tro cynta' fod ceffylau yn rhoi asthma drwg i mi! Mae'n bechod d'eud y gwir achos dwi'n reit hoff o geffylau. Mae cathod yn cael yr un effaith, ond dwi'm yn licio cathod felly dio'm otch!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Heb os Kylie Minogue! Yn benodol pan oedd hi'n chwarae Charlene yn Neighbours, sy'n dangos pa mor h锚n dwi.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan yn iau a chyn i mi gael braces, oedd gen i ddannedd echrydus, fel hen fynwent. Un tro ro'n i'n chwarae badminton efo fy nghefnder mewn canolfan hamdden. Roedd y neuadd yn llawn.

Tua hanner ffordd drwy'r g锚m naethon ni benderfynu newid ochr, ac yn lle mynd o gwmpas y rhwyd, fel pawb call, nes i redeg trwy'r rhwyd gan feddwl y bydda hi'n brwsio dros fy ngwyneb. Nath hi ddim.

Aeth y dannedd yn sownd yn y rhwyd, nes i ddisgyn, a daeth y rhwyd a'r polion ar y naill ochr i lawr am fy mhen. Cywilydd o'r r芒dd flaenaf!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Pan 'nath Sam Vokes benio'r drydydd yn erbyn Gwlad Belg.

Ffynhonnell y llun, Cwmni'r Fr芒n Wen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn (yn ycanol) gyda chast Dim Diolch, Cwmni'r Fr芒n Wen

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ma'r rhestr rhy faith, mi fyswn i yma drwy'r dydd!!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ar wah芒n i unrhywle ar Ynys M么n, Aberaeron. Dwi wrth fy modd efo'r lle. Un o'r llefydd prin yna yng Nghymru sydd yn hynod o brydferth ac eto wedi llwyddo i gadw ei hunaniaeth Gymreig.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Nes i briodi llynedd felly noson fy mhriodas dwi'n meddwl. Oedd y diwrnod ddim yn bad chwaith!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Diamynedd, afreolus a phlentynaidd.

Beth ydy dy hoff lyfr?

Dwi ddim yn ddarllenwr mawr ond llyfra' ffeithiol sy'n apelio fwya'. Dwi ar ganol llyfr o'r enw Cosa Nostra gan John Dickie, hanas y Mafia yn Sicilly, difyr iawn.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dwi'n ffan enfawr o The Who, felly Keith Moon. Fysa hi'n fwy nag un diod efo hwnnw beryg!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Room.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn Jones yn Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru)

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael y parti mwya' gwyllt yn hanes y byd!

Dy hoff albwm?

Who's next gan The Who.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?

Ma' gen i ddant melys ofnadwy, felly heb os, pwdin. Unrhywbeth yn cynnwys siocled.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump. Dwi'm yn meddwl mod i'n gorfod d'eud be' fyswn i'n 'neud y diwrnod hwnnw.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Sion Ifan