Papurau Bro yn mynd o nerth i nerth

Disgrifiad o'r llun, Papurau bro ar werth mewn siop yng Nghaernarfon

Wrth i'r tirlun newyddiadurol weld newidiadau sylweddol yng Nghymru, mae yna un rhan o'r diwydiant sydd wedi aros yn sefydlog - y papurau bro.

Ers degawdau mae rhwydwaith o dros 50 o bapurau bro misol wedi bod yn adrodd hanesion cymunedau Cymru a hynny yn y Gymraeg.

Er bod cylchrediad papurau newydd traddodiadol yn gostwng, gyda nifer o deitlau yn cael eu huno, mae'r papurau bro - sy'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr - wedi llwyddo i gadw cylchrediad sefydlog o tua 56,000 y mis.

Cyn hir bydd papur bro newydd yn dechrau yn Y Fenni, yr ardal olaf yng Nghymru sydd heb bapur bro ar hyn o bryd.

Erbyn hyn mae mwy a mwy o wefannau Saesneg lleol hefyd yn ymddangos yng Nghymru, fel y a .

Mae Glyn Tomos, golygydd yng Nghaernarfon, yn credu fod ap锚l y papurau bro yn syml.

"Mae pobl am weld eu hunain yn y papur, " meddai.

"Dyna sut mae mesur llwyddiant. A phe na bai pobl yn gweld eu hunain, yna wnawn nhw ddim prynu," meddai.

Mae tua 1,200 yn prynu Papur Dre, sef tua un ym mhob pump o oedolion Caernarfon.

Gwirfoddolwyr sy'n dosbarthu'r papur, tra bod y tudalennau yn llawn o hysbysebion gan fusnesau lleol.

"Mae'r pwyslais ar bobl Caernarfon, sut maen nhw'n byw eu bywydau a chymeriadau'r ardal," meddai Mr Tomos.

Ffynhonnell y llun, Papur Dre

Disgrifiad o'r llun, Mae gwirfoddolwyr yn hanfodl i lwyddiant y papurau bro fel Papur Dre

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweld gwerth i'r papurau bro.

Y llynedd fe wnaethant gyfrannu 拢88,880 i 52 o bapurau bro.

Fe wnaeth adroddiad blynyddol llywodraeth ar yr Iaith Gymraeg yn 2016 ddweud fod yna "le pwysig iawn i'r papurau bro ym mywydau cymunedau Cymru".

Yn ogystal 芒 straeon traddodiadol am wleidyddiaeth leol, capeli, ysgolion lleol a Merched y Wawr, mae'r papurau, yn enwedig y fersiynau digidol, yn rhoi mwy mwy o bwyslais ar newyddion.

Dywed Emma Meese, un o olygyddion , fod y papur wedi torri nifer o straeon newyddion.

"Y ni wnaeth holi yn gyntaf pam fod arwydd newydd gorsaf Heol y Frenhines yn uniaith Saesneg. Fe wnaeth hynny droi yn ymgyrch ar-lein. Rydym hefyd wedi bod yn ymgyrchu am ysgol Gymraeg newydd i ardal Grangetown.

"Mae ein darllenwyr yn weithgar iawn ar Twitter, ac rydym yn cyrraedd cynulleidfa wahanol."

Ffynhonnell y llun, Y Dinesydd

Disgrifiad o'r llun, Y Dinesydd oedd papur bro cyntaf Cymru

Yng Nghaerffili mae'r Observer yn dangos fod arddull papurau bro hefyd yn gallu apelio at ddarllenwyr yn Saesneg.

Dywedodd Richard Gurner ei fod o wedi sefydlu'r papur ar 么l teimlo yn "rhwystredig" nad oedd yn gallu cael newyddion lleol.

Erbyn hyn mae gan y papur dri o staff cyflogedig a chylchrediad o tua 10,000.

Ffynhonnell y llun, Caerphilly Observer

Disgrifiad o'r llun, Y golygydd Richard Gurner gyda rhifyn cyntaf y Caerphilly Observer

Ond mae yna anawsterau hefyd.

Mae nifer darllenwyr Papur Dre wedi gostwng o 1,600 i 1,200.

Dywed y golygyddion fod hyn yn rhannol oherwydd yr ymroddiad i werthu drwy ddefnyddio siopau lleol, a bod nifer o'r rheiny wedi rhoi'r gorau i fasnachu.

Ond mae'r papur, sy'n 18 oed, wedi moderneiddio er mwyn denu darllenwyr newydd, ac erbyn hyn mae'n cynnwys tudalennau lliw.

Maer' holl erthyglau i'w cael ar-lein, ar ap yn ogystal 芒 Facebook a Twitter.

"Roedd yn rhaid addasu, Mae pobl am weld lliw, mae'n rhaid i'r papur edrych yn dda yn y siop," meddai Glyn Tomos.

Problem arall yw bod nifer y gwirfoddolwyr yn lleihau.

"Fe ddechreuom ni pan yn ein 40au hwyr - erbyn hyn rydym yn ein 60au cynnar.

Felly mae'n golygu trio denu rhai iau i gyfrannu, ac o bosib i gymryd yr awenau pan ddaw'r amser ."