麻豆官网首页入口

Carwyn Jones yn cyhuddo Theresa May o 'beidio gwrando'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhuddo Theresa May o "beidio gwrando" ar faterion yn ymwneud gyda datganoli.

Mewn , fe rybuddiodd bod yna beryg i'r "datgysylltiad" mae pobl yn teimlo tuag at Frwsel ddod yn wir am Lundain ar 么l Brexit.

Gwnaeth Mr Jones ei sylwadau ddydd Sul, y diwrnod cyn i Mrs May a Chymru.

Mae disgwyl iddi gynnal sgwrs gyda Mr Jones yngl欧n 芒 Brexit yn ystod ei hymweliad dydd Llun

Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn honni bod yna "dir cyffredin" yngl欧n 芒'r Undeb Ewropeaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.

Mae Mrs May yng Nghymru ddydd Llun er mwyn arwyddo cytundeb Bae Abertawe.

'Datgysylltiad'

Dywedodd Mr Jones wrth y Guardian: "Os nad ydyn nhw'n ofalus, bydd y teimlad o ddatgysylltiad mae pobl yn teimlo tuag at Frwsel yn cael ei gysylltu gyda Llundain.

"Maen nhw'n rhoi'r argraff weithiau nad ydyn nhw'n gwrando.

"A pa fath o neges yw hynny i bobl Cymru?"

Ond gwrthod y feirniadaeth mae Alun Cairns gan ddweud bod yna "lot o dir cyffredin" rhwng Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 Brexit.

Wrth siarad ar 麻豆官网首页入口 Radio Wales dywedodd Mr Cairns bod ymweliad Mrs May 芒 Chymru yn "dangos y flaenoriaeth rydyn ni yn osod ar yr undeb."

"Mae hyn yn ymwneud a chael y fargen iawn ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan," meddai.